Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogaeth i Ofalwyr

Beth yw Gofalwr?

Rydym yn cydnabod nad oes y fath beth â'r Gofalwr "nodweddiadol".  Rhywun sy'n darparu gofal a chefnogaeth yn ddi-dâl i berthynas, ffrind neu gymydog sy'n anabl, yn wael yn gorfforol neu'n feddyliol, neu sydd wedi cael ei effeithio arno oherwydd camddefnyddio sylweddau yw Gofalwr.   Gallent helpu i ddarparu gofal corfforol, emosiynol neu gymdeithasol, fel: helpu gyda byw o ddydd i ddydd; ymolchi a gwisgo, paratoi prydau neu helpu gyda meddyginiaethau a helpu cleifion gyda'u hapwyntiadau meddygol.   Gall gofalwr un ai fyw gyda'r un sydd angen gofal neu roi cefnogaeth o bell.

Gall Gofalwyr fod o unrhyw oed; Gofalwyr Ifanc, Gofalwyr sy'n Oedolion Ifanc, Gofalwyr sy'n Rhieni i blant, Gofalwyr oed gweithio neu hŷn, a gallent fod â chyfrifoldebau eraill hefyd fel gwaith, addysg neu ymrwymiadau teuluol.   Nid yw pawb sy'n cymryd rôl y Gofalwr yn adnabod eu hunain fel "Gofalwr", a gall rhai ei weld yn anodd gwahaniaethu'r rôl oddi wrth eu perthynas fel aelod teulu, partner neu ffrind.

Gofalwyr Ifanc

Diffiniwyd Gofalwyr Ifanc fel plant a phobl ifanc dan 18 oed sy'n edrych ar ôl aelod o'r teulu sy'n wael, anabl neu â phroblemau iechyd meddwl, neu sy'n camddefnyddio cyffuriau neu alcohol.  Gall yr un maent yn gofalu amdano fod yn rhiant, brawd, chwaer, nain, taid neu'n berthynas arall.

Mae Gofalwyr Ifanc yn aml yn treulio eu hamser yn gwneud y pethau y byddai'r un y maent yn gofalu amdano fel arfer yn ei wneud, fel:

  • Helpu nhw i ymolchi a gwisgo amdanynt  
  • Helpu gyda meddyginiaeth  
  • Helpu nhw i fynd i'r gwely a dod allan ohono  
  • Siopa, coginio a gwaith tŷ  
  • Casglu budd-daliadau a thalu'r biliau  
  • Mynd gyda nhw i apwyntiadau  
  • Darllen ac egluro llythyrau  
  • Cadw cwmni iddynt a chodi eu calon
Ein Gweledigaeth

Mae'r Bwrdd Iechyd yn croesawu Gofalwyr a byddant yn cael eu parchu a'r gwerthfawrogi am eu harbenigedd fel partneriaid mewn gofal.   Rydym yn ymrwymo i roi cyngor a chefnogaeth i helpu i fodloni eu hanghenion, i gael y canlyniadau gorau posibl iddyn nhw a'r un maent yn gofalu amdano.

Mae'r Bwrdd Iechyd yn ymrwymo i: -

  • Weithio fel partneriaid mewn gofal: cydnabod, cefnogi a gwerthuso Gofalwyr yn eu rolau gofalu
  • Ymgysylltu a chyfathrebu: annog gwybodaeth onest ac eglur rhwng staff a Gofalwyr
  • Cefnogi a Chyfeirio: sicrhau bod gan Ofalwyr y gefnogaeth, gwybodaeth a chyfleoedd diweddaraf sy'n berthnasol i'w rolau gofalu
  • Gwrando a Dysgu: rhoi llais, cyfleoedd a dewisiadau i Ofalwyr godi eu pryderon
Asesiadau gofalwyr

Daeth y Ddeddf Lles a Gwasanaethau Cymdeithasol (Cymru) 2014 i rym ym mis Ebrill 2016. Yn awr mae gan Ofalwyr yr un hawliau statudol â'r un maent yn gofalu amdano.  

Mae gan Ofalwyr hawl i gael asesiad Gofalwyr gan eu Hawdurdod Lleol/NEWCIS hefyd i roi cyfle iddynt drafod y cymorth sydd ei angen arnynt i gynnal eu hiechyd a'u lles eu hunain ac i gydbwyso gofalu gydag elfennau eraill o'u bywyd, fel gwaith a theulu.   Os yw gofalu yn cael effaith sylweddol ar eich lles, gall yr asesiad awgrymu bod gennych hawl i gael cefnogaeth gofal cymdeithasol.

Mae'r tabl canlynol yn rhoi dolenni i wefannau defnyddiol am wybodaeth ar Asesiadau Anghenion Gofalwyr, cymorth ariannol a chyngor, cefnogaeth i ofalwyr, gofalwyr ifanc a sefydliadau cenedlaethol: 

Asesiadau Anghenion Gofalwyr

I ofyn am asesiad Gofalwyr, cysylltwch â thîm Gwasanaethau Cymdeithasol eich Awdurdod Lleol/ NEWCIS yn; Ynys Môn, Conwy, Sir Ddinbych, Gwynedd, Sir y Fflint, Wrecsam 

Cyngor a chymorth ariannol

Mae gwefan Carers UK yn rhoi cyngor a chymorth ariannol.

Cefnogaeth i Ofalwyr

Mae'r gwefannau canlynol yn rhoi cefnogaeth a gwybodaeth i ofalwyr yng; Nghonwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd ac Ynys Môn, Gogledd Cymru, Powys a Wrecsam. 

Gofalwyr Ifanc 

Mae'r gwefannau canlynol yn rhoi cefnogaeth a gwybodaeth i ofalwyr ifanc yn; Sir y Fflint, Gwynedd, Ynys Môn, Wrecsam, Conwy, Sir Ddinbych a Gogledd Cymru. 

Sefydliadau Cenedlaethol

Mae gwefannau Carers Trust a Gofalwyr Cymru (rhan o Carers UK) yn wefannau cenedlaethol sy'n rhoi gwybodaeth i ofalwyr.  

Cyrsiau Iechyd a Lles

Mae Swyddfa Hunanofal BIPBC yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau iechyd a lles yn rhad ac am ddim i oedolion sy'n byw â chyflyrau iechyd hirdymor a gofalwyr mewn cymunedau ledled Gogledd Cymru.

Petai angen mwy o gyngor neu wybodaeth arnoch, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt i Gleifion (PALS).