Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Meddwl

Gall anghenion cymorth iechyd meddwl nifer o bobl gael eu bodloni drwy eu meddygfa, Canolfan Fedrai I Cymuned, grŵp hunangymorth neu Wasanaeth Iechyd Meddwl Gofal Cychwynnol. Ond, efallai y bydd rhai pobl angen mwy o gymorth. Efallai y byddwch yn cael eich cyfeirio at Dîm Iechyd Meddwl Cymuned. 

Os ydych yn cael eich cyfeirio at Dîm Iechyd Meddwl Cymuned, nid yw hyn yn golygu bod eich problemau'n waeth na phroblemau pobl eraill, nac y byddwch yn cymryd mwy o amser i wella. Mae'n golygu eich bod efallai angen mwy o help arbenigol i gefnogi eich adferiad.

Felly, beth mae'r gwasanaethau hyn yn ei gynnig?

Ysbytai Iechyd Meddwl 

Gallwch fod yn yr ysbyty  drwy nifer o lwybrau gwahanol. Efallai y bydd y meddyg neu'r Tîm Iechyd Meddwl Cymuned wedi'ch anfon yno neu efallai y byddwch wedi'ch 'cadw' o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Mae'n llawer llai tebygol y gofynnir i chi fynd i'r ysbyty nawr na deng neu ugain mlynedd yn ôl a hyd yn oed os gofynnir i chi fynd i’r ysbyty, mae'n debyg y bydd eich arhosiad yn un byr.

Efallai y gofynnir i chi fynd i'r ysbyty oherwydd:

  • Bod eich Cydlynydd Gofal eisiau gwneud yn siŵr eich bod wedi cael y feddyginiaeth neu'r driniaeth gywir
  • Eich bod yn rhy ofidus i ymdopi gartref

Os ydych yn mynd i'r ysbyty o'ch gwirfodd, fe'ch gelwir yn "glaf gwirfoddol". Mae'r rhan fwyaf o bobl sydd yn yr ysbyty yn gleifion gwirfoddol. Os nad ydych yn hoffi eich triniaeth, gallwch adael unrhyw bryd ond mae'n syniad da eich bod yn trafod hyn gyda'r staff i ddechrau.

Mae ein hunedau iechyd meddwl ar fin bod yn rhai di-fwg

Er mwyn lleihau amlygiad i fwg sigaréts niweidiol a chefnogi iechyd a lles ein cleifion, staff ac ymwelwyr, bydd ein holl unedau iechyd meddwl yn gwbl ddi-fwg o 1 Medi 2022 ymlaen. Mae hyn yn cynnwys yr holl unedau preswyl, wardiau, adeiladau, tiroedd a cherbydau ar ein safleoedd.

Bydd ein staff yn helpu cleifion i aros yn ddi-fwg a rheoli chwantau yn ystod eu harhosiad yn ein hunedau, gan gynnwys trwy ddefnyddio meddyginiaethau cyfnewid nicotin (gan gynnwys opsiynau fel losin a phatsys nicotin) a mynediad at gefnogaeth bersonol gan gynghorydd arbenigol.  

Mwy o fanylion am unedau iechyd meddwl di-fwg

Am fwy o wybodaeth am eich hawliau yn yr ysbyty, cysylltwch â'r Gwasanaeth Eiriolaeth Gogledd Ddwyrain Cymru neu ffoniwch 01352 759 332 yn Sir y Fflint a Wrecsam, CADMHAS ar 01745 813 999 yn Sir Ddinbych a Conwy a MHAS ar 01248 670 450 ar gyfer Gwynedd ac Ynys Môn.

Timau Iechyd Meddwl Cymunedol

Mae’r Timau Iechyd Meddwl Cymuned (C.M.H.T.s) yn cael eu cynnal ar y cyd â chwe Awdurdod Lleol Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Gall y Tîm Iechyd Meddwl Cymuned gynnig ystod o wasanaethau o dan un to. Mae aelodau'r tîm yn cynnwys:

  • Nyrsys
  • Gweithwyr Cymdeithasol
  • Seicolegwyr
  • Therapyddion Galwedigaethol
  • Seiciatryddion

Er bod gan y gweithwyr proffesiynol eu sgiliau a diddordebau ei hunain, maent i gyd yn cydweithio er mwyn darparu’r cymysgedd gofal gorau i chi. Oherwydd bod amser ac adnoddau'n gyfyngedig, gall y timau ond delio â’r bobl sydd â’r angen mwyaf.

Os ydych wedi cael eich cyfeirio at y tîm gan eich meddyg, bydd Cydlynydd Gofal yn cael ei neilltuo i chi. Dylai'r ddau ohonoch eistedd i lawr a chytuno ar y driniaeth gorau.  Bydd y cytundeb hwn yn cael ei ysgrifennu ac fe'i elwir yn, eich Cynllun Gofal o dan y Dull Cynllun Gofal.

Edrychwch ar y dolenni isod i gael mwy o wybodaeth am y Timau Iechyd Meddwl Cymuned yn eich ardal leol:

Gwynedd
Ynys Môn
Conwy
Sir Ddinbych
Sir y Fflint
Wrecsam

Triniaeth Orfodol 

Os yw'r bobl o'ch cwmpas yn poeni y gallech chi niweidio'ch hun neu bobl eraill, gellir mynd â chi i'r ysbyty heb eich caniatâd. Golyga hyn eich bod yn cael triniaeth o dan wahanol adrannau'r Ddeddf Iechyd Meddwl 1983.