Neidio i'r prif gynnwy

Canslo Apwyntiad Ysbyty

Os na allwch gadw’ch apwyntiad gyda’r ysbyty, cysylltwch â ni cyn gynted ag sy'n bosib er mwyn i glaf arall ddefnyddio'r slot.

Gallwch ganslo eich apwyntiad gyda'r clerc yn yr ysbyty ar y rhif ffôn yn eich llythyr apwyntiad neu cysylltwch â ni drwy'r e-bost canlynol:

Conwy and Sir Ddinbych:         BookingClerks.1.Patient@wales.nhs.uk
Gwynedd a Môn:                       bcu.west.appointments@wales.nhs.uk
Wrecsam a Sir y Fflint:              bcu.east.appointments@wales.nhs.uk

Mae bob apwyntiad claf allanol yn costio hyd at £150.00 i’r Bwrdd Iechyd.  Os byddwch yn methu apwyntiad heb roi gwybod o flaen llaw, ni allwn ailddefnyddio’r arian yma ac mae’n rhaid i gleifion aros yn hirach am apwyntiad. 

Os na fyddwch yn rhoi gwybod i ni, efallai bydd yn rhaid i chi aros yn hirach neu efallai byddwch yn cael eich atgyfeirio’n ôl at eich meddyg teulu.


Canslo Apwyntiadau Ffisiotherapi

Os nad ydych yn gallu mynd i'ch apwyntiad Ffisiotherapi, cysylltwch â ni er mwyn i ni gynnig eich slot i glaf arall.  Cofiwch, os na fyddwch yn mynd i'ch apwyntiad a hynny heb roi gwybod i ni ymlaen llaw, efallai byddwn yn eich rhyddhau ac yn rhoi gwybod i'r sawl a oedd wedi eich atgyfeirio. 

Gallwch gysylltu â ni ar y rhif ffôn sydd yn eich llythyr apwyntiad neu drwy e-bost fel a ganlyn:

Yn llinell pwnc y neges e-bost, defnyddiwch y gair Canslo a lleoliad y clinig rydych chi'n ei ganslo, ee Canslo Bae Colwyn

Yn y neges e-bost, mae'n bwysig cynnwys:

·  Eich enw:

·  Rhif claf (bydd hwn yn eich llythyr) neu eich dyddiad geni

·  Dyddiad ac amser yr apwyntiad yr hoffech ei ganslo

·  Nodwch os nad oes angen apwyntiad arnoch chi mwyach, neu os oes angen apwyntiad arall arnoch chi, a fyddai'n well gennych chi i ni gysylltu â chi dros y ffôn i aildrefnu (rhowch fanylion cyswllt) neu a fyddai'n well gennych chi gael gwybod am apwyntiad arall dros yr e-bost neu drwy'r post

Cofiwch, nid yw e-bost yn ffordd ddiogel o gyfathrebu, felly mae'n well peidio â chynnwys gwybodaeth sensitif. Drwy e-bostio PBC, byddwn yn cymryd yn ganiataol eich bod yn fodlon i PBC ateb eich neges e-bost ynghylch yr un mater.

Gwynedd ac Ynys Môn (Gorllewin): BCU.Physio-West@wales.nhs.uk
Conwy a Sir Ddinbych (Canolog): BCU.Physio-Central@wales.nhs.uk
Wrecsam a Sir y Fflint (Dwyrain): BCU.Physio-East@wales.nhs.uk

Mae'r cyfeiriadau e-bost uchod ar gyfer canslo apwyntiadau'n unig ar hyn o bryd.

Apwyntiad Ysbyty BSL