Mae gennym wybodaeth bwysig i rannu gyda chi cyn i chi ddod i ymweld â ni. Rydym yn ceisio cyfyngu ar y niferoedd o ymwelwyr â’n hysbytai ac mae ymweliadau ysbyty yn parhau i fod wedi’u hatal. Gofynnwn i chi beidio dod â hebryngydd oni bai bydd wir angen. Os na allwch fynychu, rhowch wybod i ni cyn gynted â phosibl.
Fel gweddill y GIG, ein blaenoriaeth oedd bod y rhai a oedd angen gofal brys, p’un a oedd yn ymwneud â COVID-19 neu beidio, wedi gallu cael y gofal hwnnw mor gyflym a diogel â phosibl. Er mwyn lleihau lledaeniad y firws, roedd yn rhaid i ni ohirio rhai apwyntiadau a llawfeddygaeth nad oeddent yn frys. Mae nifer y cleifion rydym yn eu trin gyda COVID-19 ar draws Gogledd Cymru yn gostwng. Golyga hyn y gallwn ail ddechrau rhai o’n gwasanaethau wyneb wrth wyneb, ond ble gellir gwneud hyn yn ddiogel yn unig.
Gan eich bod wedi cael eich gwahodd i apwyntiad wyneb wrth wyneb, mae angen i ni ddweud wrthych am rai newidiadau rydym wedi’u cyflwyno i helpu i’ch cadw’n ddiogel.
Byddwn yn eich cadw mor ddiogel â phosibl yn ein hadeiladau gofal iechyd. Yr oll rydym yn ei ofyn yw eich bod yn ein helpu drwy ddilyn y cyngor, arweiniad a gwybodaeth a roddir i chi gan ein staff.
Gellir gweld gwybodaeth am wasanaethau caffi, siopao a gwasanaethau troli ein ysbyty, eiddor cleifion megis dyfeisiau symudol, atal haint, hylendid dwylo, PPE, arfer peswch, diogelu ein amgylchedd gofal iechyd a gadael y ward yn y daflen hon (PDF).
Os ydych mewn mwy o berygl o gymhlethdodau os byddwch yn dal COVID-19, ond mae angen i chi ddod i’r ysbyty neu glinig cymuned ar gyfer gofal wedi’i drefnu, byddwn yn rhoi cynllun ac amddiffyniad ychwanegol ar waith i chi. Gall hyn gynnwys eich gweld mewn man ar wahân a defnyddio cyfarpar amddiffynnol personol (PPE). Peidiwch â phoeni gan y byddwn yn trafod hyn gyda chi o flaen llaw.
Os oes gennych fwy o gwestiynau am eich apwyntiad a’r newidiadau rydym wedi’u gwneud i’n gwasanaethau, cysylltwch ag aelod o’r tîm apwyntiadau. Gellir dod o hyd i’w manylion cyswllt ar eich llythyr.
Gallwch hefyd gysylltu â’n gwasaneth Cyngor a Chefnogaeth i Gleifion (PALS).
Mae ein staff yn parhau i weithio’n galed iawn i ymateb i’r pandemig COVID-19 ac i sicrhau diogelwch ac ansawdd ein gwasanaethau ar gyfer yr holl gleifion. Wrth i ni yn awr baratoi at gynyddu rhai gwasanaethau wyneb wrth wyneb yn raddol, ond ble gellir gwneud hynny’n ddiogel yn unig, hoffem ddiolch i chi am eich amynedd a’ch dealltwriaeth.
Gyda’n gilydd, gallwn gadw Cymru’n ddiogel.