Gwnaethom ni ofyn i blant a phobl ifanc, ‘Beth mae cymuned yn ei olygu i chi’?
Eu Cymunedau yw:
- Lleoedd Cymdeithasol a chael pethau i’w gwneud megis clybiau ieuenctid, sinemâu, llyfrgelloedd, chwaraeon a gofodau i gwrdd â ffrindiau
- Yr awyr agored a natur (lleoedd i chwarae a mwyhau gofodau gwyrdd)
- Lleoedd – adeiladau ffisegol o fewn cymuned
- Ysgol a dysgu
- Lleoedd – cysylltiadau personol i leoedd
Mae gan gymuned hapus:
- Chwerthin, heddwch, tawelwch, hapusrwydd
- Cynhwysiant, yr ymdeimlad o berthyn, tegwch
- Dealltwriaeth a dysgu
- Diogelwch
- Anghenion sylfaenol
Yr hyn sy’n bwysig:
- Mae plant a phobl ifanc yn gwerthfawrogi rhyngweithio cymdeithasol cadarnhaol a chynhwysol.
- Mae gofodau yn yr awyr agored a chwarae ym myd natur yn chwarae rolau pwysig yn iechyd meddwl a lles.
- Hoffai plant a phobl ifanc gael opsiynau ar gyfer lle y maent yn cael help pan fydd angen unrhyw gymorth ychwanegol arnynt. Dylai cael dull 'Dim Drws Anghywir' olygu bod cymorth yn cael ei roi ar yr adeg gywir a hefyd yn y lle cywir.
- Mae plant a phobl ifanc eisiau cymorth mewn gofodau a lleoedd y maent yn teimlo fwyaf cyfforddus ynddynt.
- Mae llawer o faterion o ddydd i ddydd gydag ymarferoldeb y mae plant a phobl ifanc yng Ngogledd Cymru yn eu hwynebu. Gall diffyg technoleg a seilwaith trafnidiaeth eu gwneud yn ddibynnol ar oedolion neu'n gwneud iddynt wynebu anghydraddoldeb yn y pen draw.
- Mae plant a phobl ifanc eisiau teimlo’n ddiogel yn eu cymunedau. Mae’n bwysig bod hynny’n cynnwys yr ymdeimlad o berthyn a dealltwriaeth. Roedd cyfran uchel o blant a phobl ifanc yn cysylltu eu hystafelloedd gwely â'r lleoedd y maent yn teimlo fwyaf diogel a gwerth yr amser sydd ganddynt yn y gofodau diogel hyn.
Yr hyn a wnaeth i ni feddwl: I blant a phobl ifanc yn yr ysgol gynradd, roedd cymuned yn ymwneud â'r ysgol, teulu, ffrindiau, clybiau a lleoedd i chwarae. Ond wrth i ni weithio gyda'r ysgolion uwchradd, gwnaethom ni sylwi bod bydoedd pobl ifanc cymaint mwy. Mae cymuned yn golygu cymaint o wahanol bethau iddynt, gan gynnwys pa gymuned y maent yn gweld eu hunain yn rhan ohoni. Trafododd pobl ifanc eu hunaniaethau, rhywedd, delwedd corff a phwy sy'n rhan o'u cymuned, ar-lein, yn yr ysgol a thu hwnt. Gwnaeth i ni feddwl am bwysigrwydd hanfodol cadw mewn cysylltiad â phobl ifanc a deall 'yr hyn sy'n bwysig iddynt'.