Neidio i'r prif gynnwy

Dolur Gwddf

Ni all pobl â symptomau'r Dwymyn Goch ddefnyddio'r gwasanaeth Profi a Thrin Dolur Gwddf gan fod hwn ar gyfer rheoli tonsilitis bacterol neu ddolur gwddf feirws yn unig. Dylai unrhyw un sydd ag arwyddion o'r Dwymyn Goch (dolur gwddf, twymyn, brech, tafod wedi chwyddo) gysylltu â'u meddyg teulu neu GIG 111. Bydd unrhyw un sy’n sydd â symptomau sy’n awgrymu y gallai’r Dwymyn Goch fod arnyn nhw, sydd yn gofyn am y Gwasanaeth Prawf a Thrin Dolur Gwddf mewn fferyllfa, yn cael eu hatgyfeirio at eu meddyg teulu neu GIG 111 gan y fferyllydd.

Os yw eich dolur gwddf yn ddifrifol neu os oes gennych ddolur gwddf parhaus nad yw wedi dechrau gwella ar ôl wythnos, ewch i’ch Fferyllfa leol i gael y gwasanaeth profi dolur gwddf a’i drin.

Mae'r gwasanaeth ar gael er mwyn helpu i ganfod p'un a yw dolur gwddf yn cael ei achosi gan haint firysol neu facteriol fel y gallwch gael cyngor arbenigol a thriniaeth yn gyflym heb orfod mynd i weld eich meddyg teulu.

Byddwch yn cael ymgynghoriad gyda Fferyllydd, a fydd yn defnyddio cyfres o gwestiynau strwythuredig a phrawf swab, o bosibl, i ganfod yr hyn sy'n achosi eich dolur gwddf. Os canfyddir mai haint firysol yw'ch dolur gwddf na fydd modd ei drin gyda gwrthfiotigau, gall y Fferyllydd roi cyngor ar gamau i'w cymryd er mwyn gwella. Gall y Fferyllydd roi gwrthfiotigau hefyd os bydd y prawf yn dangos haint facteriol.

 

Cyngor Cyffredinol ar Reoli Dolur Gwddf

Hunan Ofal – gofalu amdanoch eich hun gartref

  • Cymerwch ibuprofen neu baracetamol – mae paracetamol yn well i blant ac i bobl nad ydynt yn gallu cymryd ibuprofen (sylwer na ddylai plant o dan 16 oed fyth gymryd aspirin)
  • Yfwch ddigon o hylifau oer a chynnes, a cheisiwch osgoi diodydd poeth iawn
  • Bwytwch fwydydd oer, meddal
  • Ceisiwch osgoi ysmygu a llefydd myglyd
  • Defnyddiwch gegolch cartref o ddŵr halen, cynnes
  • Ceisiwch sugno ar losennau, pethau da caled, ciwbiau rhew a loliau rhew - ond peidiwch â rhoi dim byd bach a chaled i blant ifanc sugno arnynt oherwydd y risg o dagu 

Cysylltwch â’ch Meddyg Teulu os:

  • Ydych yn cael dolur gwddf difrifol yn aml  
  • Oes gennych system imiwnedd gwan – er enghraifft, mae gennych HIV, rydych yn cael cemotherapi, neu rydych yn cymryd meddyginiaeth sy’n atal eich system imiwnedd

Ewch i’ch adran achosion brys agosaf os:

  • Yw eich dolur gwddf yn ddifrifol iawn neu’n gwaethygu’n gyflym
  • Rydych yn cael anhawster gydag anadlu
  • Rydych yn gwneud sŵn traw uchel wrth i chi anadlu (a elwir yn stridor)
  • Rydych yn cael anhawster difrifol wrth lyncu