Neidio i'r prif gynnwy

Eich brechlyn ffliw

Mae'r ffliw yn salwch anadlol difrifol sy'n effeithio ar yr ysgyfaint a'r llwybrau anadlu. Gall arwain at gyflyrau difrifol fel broncitis a niwmonia, a all fod angen triniaeth ysbyty. Gall y ffliw arwain at ganlyniadau iechyd difrifol i lawer o’r bobl fwyaf agored i niwed. 

Gall pob oedolyn sy’n gymwys ar gyfer y brechiad ffliw alw heibio i un o’n clinigau i gael eu brechlyn flliw heb drefnu apwyntiad. Gall hefyd unrhyw un sy'n gymwys ar gyfer pigiad atgyfnerthu rhag COVID-19 yr Hydref. Ceir manylion am lleoliadau, dyddiadau ac amseroedd ein clinigau ar yma.

 

Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael eich amddiffyn!

Y ffordd orau i'ch amddiffyn rhag y ffliw yw cael brechlyn ffliw yn flynyddol. Gall y brechlyn eich atal rhag cael y ffliw, a gall leihau difrifoldeb y symptomau os byddwch yn cael y ffliw.

Y gaeaf hwn efallai y byddwn yn gweld COVID-19 a’r ffliw yn lledaenu ar yr un pryd, felly mae’n arbennig o bwysig ein bod yn cael ein hamddiffyn.

Mae brechlynnau ffliw yn gyflym ac yn ddiogel iawn. Gallant atal wythnosau o salwch difrifol, a’ch diogelu chi, eich teulu a’r gymuned ehangach. 

Gallwch wirio a ydych yn gymwys i gael y brechlyn ffliw, a chael rhagor o fanylion am sut y byddwch yn ei dderbyn, trwy'r ddolen isod.