Gwaith cynnal hanfodol ar y wefan – Dydd Iau 9 Ionawr 2020

Byddwn yn gwneud gwaith cynnal hanfodol ar y wefan trwy'r prynhawn, a fydd yn effeithio rhywfaint ar systemau. Rydyn ni'n ymddiheuro ymlaen llaw am unrhyw anghyfleustra y gallai'r gwaith ei achosi a byddwn yn ceisio tarfu cyn lleied â phosib'.

Tîm Lles Cymunedol Conwy


Summary (optional)
Rydym ni’n cefnogi oedolion sy’n byw yn Sir Conwy i wella eu lles corfforol a meddyliol.
start content

P’un a oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â grŵp canu neu grŵp cymdeithasol, dechrau gwneud ioga neu ond eisiau sgwrs ar y ffôn, gallwn ni helpu. Ffoniwch neu anfonwch e-bost a bydd un o’n Swyddogion Lles cyfeillgar yn gofyn i chi am eich diddordebau a’r hyn sy’n bwysig i chi. Gallwn ddarparu gwybodaeth ac awgrymu gweithgareddau, grwpiau neu gefnogaeth i chi i ddiwallu eich anghenion.

Os hoffech gael rhagor o wybodaeth, mae sawl ffordd y gallwch gysylltu â ni:

Edrychwn ymlaen at ddod i'ch adnabod!

Mae’r prosiect hwn wedi’i ariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn rhan ganolog o raglen Ffyniant Bro Llywodraeth y DU ac yn darparu £2.6 biliwn o arian ar gyfer buddsoddiad lleol erbyn mis Mawrth 2025.  Mae’r Gronfa’n anelu at wella balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ar draws y DU drwy fuddsoddi mewn cymunedau a llefydd, cefnogi busnesau lleol, a phobl a sgiliau.  I gael rhagor o wybodaeth, ewch i dudalen Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU: prosbectws ar GOV.UK.

 

Wedi ei ariannu gan Llywodraeth y DU

Levelling up2

end content