Neidio i'r prif gynnwy

Aros yn Ddiogel yn ein Hysbytai a'n Safleoedd Cymuned

Mae gennym wybodaeth bwysig i rannu gyda chi cyn i chi ddod i ymweld â ni.

Fel gweddill y GIG, ein blaenoriaeth bennaf oedd bod y rhai a oedd angen gofal brys, p’un a oedd yn ymwneud â COVID-19 neu beidio, wedi gallu cael y gofal hwnnw mor gyflym a diogel â phosibl. Er mwyn lleihau lledaeniad y firws, roedd yn rhaid i ni ohirio rhai apwyntiadau a llawfeddygaeth nad oeddent yn frys. Mae nifer y cleifion rydym yn eu trin gyda COVID-19 ar draws Gogledd Cymru yn gostwng. Golyga hyn y gallwn ailddechrau rhai o’n gwasanaethau wyneb wrth wyneb, ond ble gellir gwneud hyn yn ddiogel yn unig.

Atal a lleihau COVID-19 yn ein hysbytai

Byddwn yn eich cadw mor ddiogel â phosibl yn ein hadeiladau gofal iechyd. Yr oll rydym yn ei ofyn yw eich bod yn ein helpu drwy ddilyn y cyngor, arweiniad a gwybodaeth a roddir i chi gan ein staff.

Gellir gweld gwybodaeth am wasanaethau caffi, siopau a gwasanaethau troli ein hysbytai, eiddo cleifion megis dyfeisiau symudol, atal heintiau, hylendid y dwylo, PPE, yr ymddygiad cywir wrth besychu, diogelu ein hamgylcheddau gofal iechyd a gadael y ward  yn y daflen hon (PDF). 

Beth mae hyn yn ei olygu i chi?

Os ydych wedi derbyn gwahoddiad i ddod atom am apwyntiad wyneb yn wyneb, mae angen i ni roi gwybod i chi am rai newidiadau rydym wedi’u cyflwyno er mwyn eich helpu i aros yn ddiogel. Pan fyddwch yn ymweld ag un o’n safleoedd ar gyfer eich apwyntiad, bydd gofyn i chi:

  • Wisgo gorchudd wyneb neu fasg. Argymhellir masgiau wyneb yn hytrach na gorchuddion wyneb ar gyfer cleifion sy’n dod i leoliad gofal iechyd. Byddwn yn fwy na pharod i roi masg wyneb i chi pan fyddwch yn dod i un o’n safleoedd. Os oes gennych unrhyw gyflyrau sy’n golygu eich bod wedi’ch eithrio rhag gwisgo masg, rhowch wybod i staff a byddwn yn ystyried pa fesurau eraill y gellir eu cymryd i’ch amddiffyn chi ac eraill rhag y risg o heintio
  • Golchi eich dwylo neu defnyddio gel diheintio’r dwylo cyn gwisgo eich masg wyneb ac ar ôl ei dynnu. Dylech osgoi cyffwrdd â’ch masg bob amser.
  • Cynnal hylendid dwylo da - bydd gel diheintio’r dwylo’n cael ei ddarparu wrth y fynedfa ac yn rheolaidd drwy ein safleoedd.

Yn dibynnu ar ble rydych yn ymweld, efallai y byddwn yn gofyn i chi

  • Ddangos cadarnhad o’ch apwyntiad cyn i chi gael dod i mewn i’n hadeiladau a/neu adrannau.
  • Ddilyn systemau unffordd dynodedig os oes rhai ar waith
  • Cadw i’r chwith bob amser ar bellter diogel o ddau fetr o leiaf oddi wrth eraill wrth i chi gerdded ar hyd y prif goridorau
  • Defnyddio’r grisiau yn hytrach na’r lifft ble bo’n bosibl. Rydym yn cyfyngu ar nifer y bobl sy’n defnyddio ein lifftiau ac yn blaenoriaethu’r rhai sydd angen eu defnyddio

Os ydych mewn mwy o berygl o gymhlethdodau os byddwch yn dal COVID-19, ond mae angen i chi ddod i’r ysbyty neu glinig cymunedol ar gyfer gofal wedi’i drefnu, byddwn yn rhoi cynllun ac amddiffyniad ychwanegol ar waith i chi. Gall hyn gynnwys eich gweld mewn man ar wahân. Peidiwch â phoeni gan y byddwn yn trafod hyn gyda chi ymlaen llaw.

Os ydych mewn mwy o berygl o gymhlethdodau os byddwch yn dal COVID-19, ond mae angen i chi ddod i’r ysbyty neu glinig cymuned ar gyfer gofal wedi’i drefnu, byddwn yn rhoi cynllun ac amddiffyniad ychwanegol ar waith i chi. Gall hyn gynnwys eich gweld mewn man ar wahân a defnyddio cyfarpar amddiffynnol personol (PPE). Peidiwch â phoeni gan y byddwn yn trafod hyn gyda chi o flaen llaw.

O ble y cewch fwy o wybodaeth?

Os oes gennych fwy o gwestiynau am eich apwyntiad a’r newidiadau rydym wedi’u gwneud i’n gwasanaethau, cysylltwch ag aelod o’r tîm apwyntiadau. Gellir dod o hyd i’w manylion cyswllt ar eich llythyr.

Gallwch hefyd gysylltu â’n gwasaneth Cyngor a Chefnogaeth i Gleifion (PALS). 

Mae ein staff yn parhau i weithio’n galed iawn i ymateb i’r pandemig COVID-19 ac i sicrhau diogelwch ac ansawdd ein gwasanaethau ar gyfer yr holl gleifion. Wrth i ni baratoi bellach i gynyddu rhai gwasanaethau wyneb wrth wyneb yn raddol, ond ble gellir gwneud hynny’n ddiogel yn unig, hoffem ddiolch i chi am eich amynedd a’ch dealltwriaeth.

Cofiwch ddod ag unrhyw feddyginiaeth cyfredol gyda chi i’ch apwyntiad.