Neidio i'r prif gynnwy

Ymarfer corff yn ystod beichiogrwydd

Mae gwneud ymarfer corff pan yn feichiog yn bwysig o ran eich iechyd corfforol a'ch les emosiynol hefyd. Bydd 30 munud o weithgarwch corfforol bum gwaith yr wythnos yn sicrhau y gwnewch chi gadw'n heini ac y gallwch chi reoli'ch pwysau'n well, ac fe wnaiff hynny eich helpu i gysgu'n well. Bydd gwneud ymarfer corff hefyd yn helpu i atal rhwymedd, cur pen, poen cefn, poen yn y pelfis, crampiau a thraed chwyddedig.

Os oeddech chi'n arfer cadw'n heini cyn dod yn feichiog, daliwch ati!

Os nad oeddech chi'n gwneud llawer o gadw'n heini cyn dod yn feichiog, mae nawr yn adeg wych i gychwyn arni! Mae'n bwysig i chi fynd ati'n bwyllog i wneud ymarfer corff a pheidio â chychwyn gwneud ymarferion ymdrechgar yn ddisymwth. Nid oes yn rhaid i chi wneud ymarfer corff ymdrechgar i sicrhau manteision o ran iechyd a lles. Ystyrir fod gweithgareddau megis cerdded yn fywiog yn ddigonol i'ch helpu i sicrhau y gwnewch chi ddigon o ymarfer corff pan fyddwch yn feichiog. Dylech chi allu sgwrsio â rhywun tra byddwch chi'n gwneud ymarfer corff.

Beth bynnag fo lefel eich ffitrwydd, mae'n hollbwysig i chi wrando ar eich corff a gwneud beth bynnag sy'n teimlo'n briodol i chi. Holwch eich bydwraig am ddosbarthiadau ymarfer corff yn ystod beichiogrwydd (e.e. 'Aquanatal', sef ymarfer corff mewn pwll nofio) yn eich ardal leol.

Mae rhagor o wybodaeth am gadw'n heini pan fyddwch yn feichiog ar gael ar wefan GIG 111 Cymru.