Neidio i'r prif gynnwy

Fitaminau Cychwyn Iach

Mae'r rhai sy'n feichiog, y rhai sydd â phlentyn o dan 12 mis oed, a phlant hyd at 4 mlwydd oed sy'n derbyn cerdyn Cychwyn Iach  gymwys i gael fitaminau Cychwyn Iach am ddim. 

Mae fitaminiau Cychwyn Iach yn cynnwys fitaminiau A, C a D i blant o'u geni hyd at 4 oed ac asid ffolig a fitaminau C a D i'r rhai sy'n feichiog ac yn bwydo ar y fron. 

Diferion fitaminau plant Cychwyn Iach

Mae plant sy’n derbyn talebau Cychwyn Iach yn gymwys i gael fitaminau am ddim o’u genedigaeth tan eu 4ydd pen-blwydd.

Mae’r dos dyddiol o 5 diferyn yn cynnwys:

  • 233 microgram o fitamin A
  • 20 miligram o fitamin C
  • 10 microgram o fitamin D3

Nid yw plant sy’n cael 500ml neu fwy o fformwla'r diwrnod angen fitaminau Cychwyn Iach.

Mae’r fitaminau’n addas i lysieuwyr ac nid oes ynddynt laeth, wy, glwten, soia a gweddillion pysgnau, ac maent yn para ar y silff am 15 mis o gael eu cynhyrchu. Mae gan y buddiolwyr hawl i 1 potel o ddiferion plant bob 8 wythnos.

Fitaminau Cychwyn Iach

Y dos dyddiol yw 1 dabled, sy’n cynnwys

  • 70 miligram o fitamin C
  • 10 microgram o fitamin D
  • 400 microgram o asid ffolig

Mae gennych hawl i un potyn o fitaminau bob wyth wythnos.  

Maent yn addas i lysieuwyr ac nid oes ydynt wenith, pysgod, wyau na halen. Dim lliwiau, blasau na chadwolion. Dim cynhwysion sy’n cynnwys glwten.