Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw'r Cynllun Cychwyn Iach?

Os ydych chi'n feichiog ers 10 wythnos neu fwy neu os oes gennych chi blentyn o dan 4 oed, efallai y bydd gennych hawl i gael help i brynu bwyd iach a llaeth. Mae teuluoedd hefyd yn derbyn atchwanegiadau fitaminau am ddim trwy'r cynllun.

Os ydych yn gymwys, bydd cerdyn Cychwyn Iach yn cael ei anfon atoch gydag arian arno a gallwch ddefnyddio hwn mewn rhai siopau yn y DU, a bydd taliad ychwanegol yn cael ei roi ar y cerdyn bob 4 wythnos. 

Byddwch yn cael:

  • £4.25 bob wythnos yn ystod eich beichiogrwydd (o’r 10fed wythnos ymlaen)
  • £8.50 yr wythnos i blant o’u geni  i flwydd oed
  • £4.25 yr wythnos i blant rhwng 1 a 4 oed

Ni fyddwch yn gymwys i’w dderbyn wedi i’ch plentyn gyrraedd 4 oed.

Beth allwch chi ei brynu gyda'r cerdyn Cychwyn Iach?

Dim ond rhai mathau o laeth, llaeth fformiwla, ffrwythau a llysiau y cewch chi eu prynu.

Ffrwythau a llysiau

Gall y rhain fod yn:

  • ffres, wedi’u rhewi neu mewn tun
  • cod-lysiau ffres, sych neu dun
  • ffrwythau cyfan neu wedi'u torri'n fân
  • frwythau wedi'u pecynnu neu'n rhydd
  • ffrwythau mewn sudd ffrwythau, neu ffrwythau neu lysiau mewn dŵr

Llaeth buwch plaen

Mae angen i hwn fod yn laeth buwch plaen, sydd wedi’i basteureiddio, wedi’i sterileiddio, yn para’n hir neu wedi cael ei drin mewn gwres uchel (UHT).

Fformiwla babanod

Rhaid i hyn fod yn:

  • fformiwla cam cyntaf yn unig (fformiwla cynaf babanod)
  • wedi'i wneud o laeth buwch
  • yn gyflawn o ran maeth

Chwiliwch am complete nutrition’, ‘from birth’, ‘from birth to 6 months’, neu ‘from birth to 12 months’ ar y label.

Ni all fod yn fformiwla ‘follow-on’ (o dan y labeli ‘from 6 months’, neu’n laeth ‘from 6 to 12 months’).

Gallwch ddod o hyd i ragor am fformiwlâu babanod yn Dewisiadau'r GIG.