Neidio i'r prif gynnwy

Symudiadau Ffetws

Mae’n bwysig nad ydych chi’n aros tan y diwrnod canlynol i ofyn am gyngor os ydych chi’n poeni am symudiadau eich babi.

Mae'r rhan fwyaf o fenywod yn dechrau teimlo’u babi’n symud fel arfer rhwng 16 a 24 wythnos eu beichiogrwydd. Gellir disgrifio symudiadau babi fel unrhyw beth o gicio, rhuglo, crynu, ysgwyd neu rolio. Gall y math o symudiad newid wrth i'ch beichiogrwydd fynd yn ei flaen.

Pa mor aml ddylai fy mabi symud?

Nid oes nifer penodol o symudiadau y dylech eu teimlo bob dydd. Mae pob babi yn wahanol a dyna pam ei bod hi’n bwysig i chi ddod yn gyfarwydd â sut mae eich babi chi yn symud.

Bydd eich babi yn dechrau datblygu patrwm tua 26-28 wythnos pan fydd yn deffro a chysgu am gyfnodau rheolaidd trwy gydol y dydd, ni fydd y cyfnodau cysgu hyn yn para mwy na 90 munud fel arfer. Dylech fonitro symudiadau dros gyfnodau – bydd 10 munud o symudiadau cyson yn cael ei ystyried yn un cyfnod. Dylai patrwm y cyfnodau rydych chi'n eu teimlo aros yr un fath a digwydd ar adegau tebyg bob dydd.

Disgwylir i’r symudiadau gynyddu'n raddol hyd at wythnos 32 ac yna’n aros mwy neu lai’r un fath. Nid yw'n wir bod babanod yn symud llai tuag at ddiwedd beichiogrwydd neu wrth esgor. Dylech barhau i deimlo bod eich babi yn symud hyd at yr amser y byddwch yn dechrau esgor a hefyd tra byddwch yn esgor.

Nid ydym yn argymell eich bod yn cyfrif symudiadau eich babi ond yn hytrach byddwch yn ymwybodol o batrwm a threfn arferol eich babi.

Pryd ddylech chi ffonio'ch bydwraig?

Gall gostyngiad yn symudiadau’r babi fod yn arwydd pwysig fod y babi yn anhwylus.

Os ydych chi’n meddwl bod symudiadau eich babi wedi arafu neu stopio, siaradwch â’ch bydwraig neu’ch uned famolaeth ar unwaith – mae ein bydwragedd ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Gellir dod o hyd i fanylion cyswllt Unedau Asesu Cleifion Mamolaeth Allanol (MOAU) ym mhob safle ysbyty yma.

Peidiwch byth â phoeni am ffonio, mae'n bwysig eich bod yn siarad â bydwraig neu'ch uned famolaeth am gyngor hyd yn oed os ydych yn ansicr. Mae’n debygol iawn y byddan nhw eisiau eich gweld chi ar unwaith.

Beth os bydd symudiadau fy mabi yn lleihau eto?

Os ydych wedi cael archwiliad a’ch bod yn dal i fod yn anfodlon â symudiad eich babi, rhaid i chi gysylltu â’ch bydwraig neu’ch uned famolaeth ar unwaith, hyd yn oed os oedd popeth yn normal y tro diwethaf i chi gael eich archwiliad. Peidiwch ag oedi cyn cysylltu â'ch bydwraig neu'r uned famolaeth am gyngor, waeth faint o weithiau y bydd hyn yn digwydd.

Cyngor pellach a gwybodaeth ddefnyddiol

Rydym yn eich cynghori i beidio â defnyddio doppler/monitor llaw neu apiau ffôn i ddod o hyd i guriad calon eich babi. Hyd yn oed os byddwch yn canfod curiad calon, nid yw o reidrwydd yn golygu bod eich babi yn iach. Ceisiwch gefnogaeth gan eich bydwraig neu uned famolaeth.