Neidio i'r prif gynnwy

Camddefnyddio sylweddau mewn beichiogrwydd

Os ydych yn feichiog ac yn defnyddio meddyginiaeth anghyfreithlon neu feddyginiaeth presgripsiwn, dylech geisio cyngor gan eich Meddyg Teulu neu Fydwraig cyn gynted â phosibl.

Oherwydd y peryglon ynghlwm mewn cymryd cyffuriau yn ystod beichiogrwydd, rydym yn cynghori’r holl ferched beichiog i osgoi unrhyw gyffuriau oni bai eu bod wedi eu rhagnodi gan ymarferydd meddygol. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am feddyginiaeth ddiogel mewn beichiogrwydd.

Beth i’w wneud os ydych yn dod yn feichiog ac rydych yn defnyddio cyffuriau?

Mae’r tymor cyntaf (hyd at 12 wythnos) yn gyfnod hollbwysig yn natblygiad eich babi ac mae’n bwysig eich bod yn ceisio gofal cyn-enedigol cyn gynted â’ch bod yn canfod eich bod yn feichiog.

Pa un a ydych yn defnyddio cyffuriau anghyfreithlon neu feddyginiaeth wedi ei rhagnodi, dylech ddweud wrth eich Meddyg Teulu neu Fydwraig fel y gallan nhw eich helpu chi i gael y cymorth a’r gefnogaeth gywir. 

Effeithiau camddefnyddio sylweddau mewn beichiogrwydd

Gall cyffuriau gael effaith andwyol ar yr embryo neu ffetws ar unrhyw adeg o’r beichiogrwydd. 

Yn y tymor cyntaf gall rhai cyffuriau effeithio ar ddatblygiad yr organnau y ffetws ac mewn achosion difrifol gallant achosi camesgoriad.

Yn yr ail dymor (13 i 28 wythnos) gall rhai cyffuriau effeithio ar dyfiant y babi, yn arwain at bwysau geni isel a all gael effaith barhaol unwaith y caiff ei eni ar eu haddysg, ymddygiad a sgiliau datblygiadol a allai achosi salwch plentyndod yn y dyfodol.

Yn y trydydd tymor (y tri mis olaf), gall parhau i ddefnyddio cyffuriau achosi genedigaeth gynamserol ac mewn rhai achosion o ddiddyfnu’r babi.

Diddyfnu’r babi oddi ar gyffuriau

Nid yw babanod yn cael eu geni yn ddibynnol hyd yn oed os yw’r fam ond gallant ddioddef symptomau diddyfnu trallodus oherwydd dibyniaeth ar yr hyn y mae’r fam wedi bod yn ei gymryd yn ystod beichiogrwydd.

Fe all rhai babanod ddangos arwyddion o ddiddyfnu o fewn y 72 awr gyntaf o gael eu geni ac mewn rhai amgylchiadau gall bara am 14 niwrnod yn dibynnu ar y cyffuriau a ddefnyddiwyd yn y beichiogrwydd. Gall yr arwyddion fod yn sugno anghydlynus, chwydu a dolur rhydd ac ennill pwysau gwael ac mewn achosion prin, gall confylsiynau ddigwydd. Caiff babanod eu monitro a’u trin yn ôl y gofyn tra yn yr ysbyty a byddai’r mamau yn cael eu cefnogi gan weithwyr proffesiynol yn ystod y cyfnod hwn yn ogystal.

Efallai na fydd rhai effeithiau yn amlwg adeg y geni ond gallant ddod yn amlwg yn ddiweddarach yn eu bywyd.

Peryglon camddefnyddio sylweddau mewn beichiogrwydd

Mae camddefnyddio sylweddau yn ystod beichiogrwydd yn cynyddu’r perygl o:

  • Gael babi cynamserol neu â phwysau isel.
  • Y babi yn dioddef symptomau diddyfnu oddi ar gyffuriau a ddefnyddiwyd gan y fam yn ystod beichiogrwydd.
  • Marwolaeth y babi cyn neu’n fuan wedi’r enedigaeth.
  • Syndrom Marwolaeth Sydyn Babanod.
  • Niwed corfforol neu niwrolegol i’r babi cyn genedigaeth, yn enwedig os yw trais yn gysylltiedig â defnydd rhieni o gyffuriau neu alcohol.
  • Mae merched beichiog sy’n yfed yn ormodol mewn perygl o eni babanod gyda Syndrom Alcohol y Ffetws.
  • Darganfyddwch fwy o wybodaeth am Beryglon yfed alcohol yn ystod beichiogrwydd.

Dolenni ac adnoddau defnyddiol

Mae cymorth a chefnogaeth gyfrinachol ar gael: