Neidio i'r prif gynnwy

Bwyta'n dda yn ystod beichiogrwydd

Mae gan bwyta’n dda lawer o fanteision ar eich cyfer chi a’ch babi. Mae bwyta amryw o fwydydd maethlon ar draws y prif grwpiau bwyd yn y Canllaw Bwyta’n dda yn helpu amddiffyn eich iechyd corfforol a lles meddyliol, yn ogystal â chefnogi tyfiant a datblygiad iach eich babi.

Mae’r Canllaw Bwyta’n dda yn dangos y gwahanol symiau a’r mathau o fwydydd sydd eu hangen i fwynhau deiet cytbwys ac iach, gan roi trosolwg i ni o beth sy’n cael ei argymell i’w fwyta ac yfed dros gyfnod o amser, megis wythnos. Gwyliwch y fideo byr hwn ar y Canllaw Bwyta’n dda am awgrymiadau defnyddiol.

Cadw’n hydradol (hylifau)

Hydradiad da yw un o agweddau pwysicaf ein deiet. Mae’n bwysig yfed digon o hylifau er mwyn cadw lefelau cyson yn y corff ac i sicrhau bod ein holl swyddogaethau corfforol yn gallu gweithredu yn ôl yr arfer. Mae anghenion hylif ychydig uwch yn ystod beichiogrwydd ac argymhellir cael tua 8-10 cwpanaid o hylif y dydd (tua 200ml y cwpan neu wydr). Oherwydd colledion, rydym yn debygol o fod angen mwy o hylif pan fydd y tywydd yn boeth, pan fyddwn yn gwneud ymarfer corff, neu os ydym yn sâl. Gall amrywiaeth o hylifau poeth ac oer gyfrif, ond mae dŵr yn arbennig o dda i'n cadw'n hydradol iawn.

Mae cymeriant uchel o gaffein yn ystod beichiogrwydd yn cynyddu’r risg o bwysau geni isel, camesgoriad a marw-enedigaeth. I helpu lleihau’r risgiau hyn, peidiwch ag yfed gormod o ddiodydd sy’n cynnwys caffein, a cheisiwch gael llai na 200mg o gaffein y dydd. Mae’r diodydd hyn yn cynnwys y symiau caffein canlynol:

  • 100mg mewn mwg o goffi parod
  • 140mg mewn mwg o goffi hidledig
  • 75mg mewn mwg o de (mae te gwyrdd yn cynnwys symiau tebyg o gaffein i de rheolaidd)
  • 40mg mewn can cola
  • 80mg mewn can 250ml o ddiod egni neu 160mg mewn can 500ml

Gall fod yn anodd gwybod faint o gaffein sy’n cael ei gynnwys mewn rhai diodydd, yn enwedig pan fyddwch yn prynu coffi o gaffi neu o siopau manwerthu. Yn yr achosion hyn, efallai y bydd yn fwy diogel dewis opsiynau sydd heb gaffein.

Diogelwch bwyd yn ystod beichiogrwydd

Gellir dod o hyd i’r wybodaeth ddiweddaraf am fwydydd a diodydd sy’n ddiogel i’w bwyta ac yfed, a’r rhai y dylid eu hosgoi yn ystod beichiogrwydd, ar y wefan GIG.

Nid oes angen bwyta i ddau

Efallai y bydd cyfnodau yn ystod eich beichiogrwydd lle’r ydych yn teimlo’n fwy llwglyd, ac efallai y byddwch wedi clywed pobl yn siarad am fod angen ‘bwyta i ddau’. Fodd bynnag, mae eich anghenion egni yn ystod beichiogrwydd yn debyg iawn i’r anghenion egni yr oedd gennych cyn eich beichiogrwydd. Dim ond yn ystod misoedd olaf o’ch beichiogrwydd (y tri mis olaf) y mae merched beichiog yn cael eu cynghori i gynyddu eu cymeriant egni i 200 o galorïau ychwanegol y dydd. Mae enghreifftiau o fyrbryd 200 calori yn cynnwys iogwrt braster isel gyda banana fach, neu 2 dafell denau o dost gwenith cyflawn gyda thaeniad ysgafn, neu bowlen fach o rawnfwyd grawn cyflawn gyda llaeth hanner neu sgim.

Y ffordd orau o gefnogi beichiogrwydd iach yw dilyn patrwm bwyta rheolaidd a chanolbwyntio ar fwynhau amrywiaeth o fwydydd fel y dangosir yn y Canllaw Bwyta’n dda.

Magu pwysau yn ystod beichiogrwydd

Mae’n normal i fagu pwysau pan ydych yn feichiog. Ar gyfer y rhan fwyaf o ferched beichiog, mae magu pwysau rhwng 10 a 12.kg (tua 1 ½ i 2 stôn) yn normal, gyda’r rhan fwyaf o’r pwysau a fagwyd ar ôl wythnos 20. Mae magu pwysau’n bennaf oherwydd bod y babi’n tyfu, y gwaed ychwanegol sydd ei angen arnoch chi a’ch babi, yr hylif sy’n amddiffyn eich babi, a’r corff yn storio ychydig o fraster ychwanegol ar gyfer gwneud llaeth y fron.

Gall magu gormod neu ddim digon o bwysau yn ystod beichiogrwydd gynyddu’r risg o rhai cymhlethdodau megis pwysedd gwaed uchel (pre-eclampsia), diabetes yn ystod beichiogrwydd, pwysau geni uchel neu isel, a phroblemau yn ystod esgor a genedigaeth.

Fel rhan o ofal safonol, bydd eich bydwraig yn gofyn i fesur eich taldra a’ch pwysau yn eich apwyntiad cyn-geni cychwynnol. Os gwnaethoch ddechrau eich beichiogrwydd uwchlaw ystod pwysau iach, er enghraifft, os cafodd Mynegai Màs y Corff (BMI) ei fesur fel 30 neu fwy, efallai y bydd eich bydwraig yn cynnig trafod yr opsiynau gofal sydd ar gael er mwyn eich cefnogi wrth gael beichiogrwydd iach a diogel.

Ni argymhellir colli pwysau yn ystod beichiogrwydd. Os oes unrhyw bryderon gennych am eich pwysau, siaradwch â’ch bydwraig neu Feddyg Teulu.

Ar gyfer y rhai sydd eisiau cymorth i golli pwysau ar ôl beichiogrwydd, mae help a chefnogaeth ar gael drwy Cymorth gyda’m Pwysau Gogledd Cymru.

Yfed alcohol

Mae canllawiau ar hyn o bryd yn argymell mai’r opsiwn mwyaf diogel i’r rhai sy’n cynllunio beichiogi a’r rhai sy’n feichiog yw osgoi alcohol. Gall alcohol gynyddu’r risg o gamesgoriad neu gall eich babi ddatblygu problemau a all arwain at dyfiant gwael, anawsterau dysgu ac ymddygiad. Os oes unrhyw bryderon gennych am yfed alcohol yn ystod beichiogrwydd, siaradwch â’ch bydwraig.

Syniadau ar gyfer ryseitiau

Mae’r wefan Sgiliau Maeth am Oes® a’r ap Foodwise in Pregnancy yn cynnig amryw o ryseitiau sy’n ystyriol o deuluoedd i helpu gyda syniadau ac awgrymiadau ar gyfer prydau a byrbrydau maethlon a blasus.