Neidio i'r prif gynnwy

Sut i wybod bod bwydo ar y fron yn mynd yn dda

Sut ydych chi'n gwybod bod y babi yn cael digon?

Bwyd o'r fron = pryd 3 chwrs i fabi

Awgrym da ar gyfer helpu babi i fwydo'n dda - Cynigiwch ddwy fron i'ch babi yn ystod pob cyfnod bwydo. Efallai na fydd eich babi yn cymryd yr ail fron bob tro ond bydd yn gwerthfawrogi'r cynnig. 

Mae llaeth mam yn newid trwy gydol cyfnod bwydo. Mae’r llaeth tua’r diwedd, llaeth ‘pwdin’, yn uwch mewn braster ac yn creu carthion!

Bydd babi sydd wedi’i ymlynu'n dda yn trosglwyddo llaeth yn dda, sy’n golygu y bydd yn cael digon o bwdin a bydd cewynnau’n gweld digon o garthion!

  • Meconiwm (carthion du) i ddechrau ar ddiwrnod 1
  • Yn troi'n garthion brown ar ddiwrnod 2
  • Yna i garthion gwyrdd ar ddiwrnod 3
  • Ac o hynny ymlaen i garthion melyn

O’r 3ydd/4ydd diwrnod ar ôl yr enedigaeth cadwch olwg am:

  • O leiaf 2 ysgarthiad (Yn fwy na darn £2)
  • O leiaf 6 cewyn gwlyb mewn 24 awr
  • Edrychwch i weld a yw'r babi'n llyncu'n aml

Pwysau

  • Mae'r rhan fwyaf o fabanod yn colli tua 7-8% o'u pwysau geni yn ystod y 3 diwrnod cyntaf
  • Mae'r rhan fwyaf o fabanod yn adennill eu pwysau geni erbyn tua diwrnod 14

Siaradwch â bydwraig neu Ymwelydd Iechyd os oes gennych bryderon am fwydo eich babi.