Neidio i'r prif gynnwy

Sut mae llaetha (gwneud llaeth) yn gweithio

Mae mwy i fwydo babi na'r trosglwyddiad syml o laeth a chalorïau. Mae bwydo babi yn rhan o berthynas gariadus newydd sbon sy'n dechrau cyn i'r babi gael ei eni hyd yn oed. 

Ydy llaeth y fam yn bwysig? 

Mae llaeth mam yn amddiffyn ei babi rhag:  

  • Heintiau ar y frest a salwch firaol  
  • Gastroenteritis a dolur rhydd  
  • Heintiau wrin  
  • Heintiau'r glust  
  • Alergeddau (asthma ac ecsema)  
  • Diabetes a Gordewdra 

Mae bwydo ar y fron yn lleihau risg mam o:  

  • Canser y fron 
  • Canser yr ofari  
  • Diabetes  
  • Osteoporosis 

Cost - Mae fformiwla babanod yn ddrud - hyd at tua £1,200 y flwyddyn yn dibynnu ar y brand. Beth allech chi ei brynu yn lle?

“Trafferthus” - Mae defnyddio fformiwla am 1 flwyddyn yn golygu gwneud mwy na 2,000 o boteli, sef tua 200 awr o waith yn y gegin. 

Mae bodau dynol yn famaliaid - Mae dros 4,500 o rywogaethau o famaliaid ar y Ddaear. Mae pob rhywogaeth yn gwneud llaeth arbennig ar gyfer eu babanod. Llaeth dynol ar gyfer babanod dynol!  

Manteision ychwanegol i'r fam

Oeddech chi'n gwybod bod bwydo ar y fron yn defnyddio tua 500 o galorïau’r dydd ar gyfartaledd? I losgi’r un nifer o galorïau bydd angen i chi nofio 30 lap neu feicio am fwy nag awr bob dydd. 

Sut mae llaetha (gwneud llaeth) yn gweithio?  

Gwyliwch y fideo pum munud hwn i gael rhagor o wybodaeth am sut mae llaetha yn gweithio

Diddordeb mewn tynnu llaeth? 

Os yw popeth yn iawn mae'n syniad da aros nes bod eich cyfnod llaetha wedi setlo ychydig cyn i chi ddechrau tynnu llaeth. I lawer o famau bydd hyn yn cymryd tua 3-4 wythnos.  

Mae’n werth ystyried y gallai cyflwyno teth neu ddymi yn gynnar ei gwneud hi’n anoddach i’r babi ymlynu’n dda wrth y fron, gall ymyrryd â “bwydo dan arweiniad babi” a gallai hyn leihau eich cyflenwad llaeth. 

Pam mae tynnu llaeth â llaw yn sgil ddefnyddiol i famau newydd ei dysgu?  

Ar ôl yr enedigaeth bydd bydwraig yn eich helpu i ddysgu sut i dynnu llaeth â llaw. Gwyliwch y fideo UNICEF i ddysgu mwy am dynnu llaeth â llaw. 

  • Gall tynnu ychydig o gynlaeth helpu i ddenu babi cysglyd i ymlynu  
  • Efallai y bydd angen i chi dynnu cynlaeth ar gyfer babi cysglyd yn ystod y 2 ddiwrnod cyntaf  
  • Efallai y bydd angen i chi feddalu bron gorlawn ar ddiwrnod 3-5 i helpu babi i ymlynu  

Ydych chi wedi clywed am dynnu cynlaeth â llaw cyn i'ch babi gael ei eni? 

Y dyddiau hyn mae llawer o ferched beichiog yn dechrau casglu cynlaeth cyn i'w babi gyrraedd.

  • Efallai y bydd rhai babanod yn cael anawsterau wrth fwydo neu gynnal eu lefelau siwgr yn y gwaed yn ystod yr ychydig ddyddiau cyntaf ar ôl genedigaeth ac efallai y bydd angen bwydo ychwanegol arnynt  
  • Gall mamau sydd â diabetes neu sydd â heriau bwydo eraill a nodwyd elwa'n arbennig o gasglu cynlaeth.  
  • Mae cynlaeth yn cynnwys nodweddion hybu imiwnedd pwysig ac mae'n fwyd perffaith i fabi newydd 

Mae rhagor o wybodaeth am dynnu llaeth o’r fron cyn i’ch babi gyrraedd ar gael ar wefan Cymdeithas Mamau sy’n Bwydo ar y Fron.

Gofynnwch i fydwraig am arweiniad ar dynnu llaeth â llaw cyn geni (o tua 36 wythnos ymlaen) ac ystyriwch ymuno â'n grwpiau Facebook “Breastfeeding Friends” caeedig.