Neidio i'r prif gynnwy

Sut gall neiniau a theidiau gefnogi bwydo ar y fron

Llongyfarchiadau, rydych chi'n mynd i fod yn daid a nain. Yn naturiol, rydych chi eisiau'r gorau i'ch wyres/ŵyr newydd ac eisiau trosglwyddo cyngor a budd eich profiad. Mae llawer o famau newydd yn penderfynu bwydo ar y fron, ac efallai y byddwch eisiau dysgu mwy am fwydo ar y fron. 

Sut allwch chi helpu? 

Mae gan neiniau a theidiau ran bwysig iawn i’w chwarae wrth helpu gyda’r babi newydd: 

  • Newid cewyn y babi, rhoi bath i’r babi, codi gwynt a setlo’r babi ar ôl bwydo.  
  • Trwy wneud pethau ymarferol fel glanhau, coginio, golchi dillad, siopa. Bydd gwneud paned o de neu ddal y babi tra bod mam yn cael bath yn gwneud gwahaniaeth enfawr.  
  • Mae gofalu am unrhyw blant hŷn yn aml yn ddefnyddiol hefyd.  
  • Yn bennaf oll, darparu llawer o gefnogaeth ac anogaeth. 

Dysgu mwy am gefnogi'ch teulu gyda bwydo ar y fron.

Os oes gennych unrhyw bryderon am fwydo babi ar y fron, yn hytrach nag awgrymu bod babi’n cael llaeth fformiwla, anogwch y rhieni newydd i ofyn i fydwraig neu ymwelydd iechyd am help neu ofyn am gymorth gan Gyfaill Cefnogol Bwydo ar y Fron hyfforddedig.