Neidio i'r prif gynnwy

Diet iach i chi a'ch babi

Bydd bwyta'n faethlon yn eich helpu chi i adfer wedi'r enedigaeth a rhoi'r egni i chi i ofalu am eich babi newydd. Mae bwyta'n dda yn bwysig i bob mam newydd - fodd bynnag, yn y dyddiau cynnar, gallech ganfod bod gennych ychydig llai o amser i baratoi bwyd. Ceisiwch fwyta ac yfed ar amseroedd rheolaidd trwy gydol y dydd, gall prydau llai ar ffurf byrbrydau yn amlach deimlo yn haws i'w rheoli ar y dechrau.

Anelwch at gynnwys brecwast bob dydd, wedi ei gadw yn syml a blasus, megis bowlen o rawnfwyd cyflawn, uwd neu dost gyda pheth ffrwythau ffres/tun neu sych. Gwelwch wefan First Steps Nutrition Trust am ragor o wybodaeth yn cynnwys arweiniad ymarferol ar fwyta'n dda ar gyfer beichiogrwydd iach.

Byrbrydau iachus/syniadau am brydau llai

  • Darn o ffrwyth
  • Ffon lysiau gyda chaws meddal neu hwmws
  • Powlen fach o rawnfwyd cyflawn neu uwd gyda banana
  • Llond llaw fach o gnau plaen (heb eu halltu) yn gyfan neu wedi eu torri
  • Iogwrt gyda ffrwyth wedi'i dorri
  • Teisen wedi'i thostio neu grwmped
  • Tafell o dost graneri neu rawnfwyd cyflawn gyda menyn cnau daear
  • Tafell o dost neu daten fach trwy ei chroen gyda ffa pob
  • Powlen fach o gawl llysiau, ffa neu ffacbys gydag 1-2 gracer/tafell fach o fara
  • Brechdan fach gyda llenwadau megis wy a chres, salad ciw iâr, eog a chiwcymbr, tiwna ac india-corn

Hydradu’n gyson

Anelwch at gael oddeutu 8-10 gwydraid o hylif drwy gydol y dydd a mwy os yw'r tywydd yn boeth, neu os ydych yn gwneud ymarfer corff. Dŵr sydd orau ond mae pob hylif yn gallu cyfrif. Ceisiwch gadw potel ddŵr ffres yn agos ac wedi ei llenwi.

Gofal gyda chaffein

Cyfyngwch ar gymeriant caffein i lai na 200mg y dydd wrth fwydo eich babi ar y fron. Mae caffein yn symbylydd a gall basio trwy laeth y fron yn gwneud babanod yn aflonydd neu eu cadw‘n effro. Os ydych yn mwynhau yfed te neu goffi, rhowch gynnig ar opsiynau heb gaffein. Mae'n well osgoi diodydd egni oherwydd eu cynnwys uchel mewn caffein.

Fitamin D

Anogir merched sy'n bwydo ar y fron i gymryd atchwanegiad fitamin D 10 microgram yn ddyddiol. Gall mamau newydd gael yr holl fitaminau a mwynau sydd arnynt eu hangen ar gyfer iechyd da drwy fwyta diet amrywiol a chytbwys.

Cychwyn Iach

Mae Cynllun Iach yn gynllun y DU sy'n cefnogi teuluoedd cymwys gyda chyllid wythnosol i’w wario ar eitemau bwyd iach, yn ogystal â fitaminau am ddim i famau beichiog a rhai sy’n bwydo ar y fron a phlant o dan 4. Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am y Cynllun Cychwyn Iach yn cynnwys cynhwysedd a sut i wneud cais.

Rhagor o wybodaeth ac adnoddau