Neidio i'r prif gynnwy

Colostrwm: bwyd babi cyntaf perffaith natur

Oddeutu 16 wythnos o'r beichiogrwydd mae corff mam yn dechrau paratoi colostrwm yn barod i'w babi.

Pam mae Colostrwm yn bwysig?

Mae babi yn fregus iawn yn ystod yr ychydig oriau a'r dyddiau cyntaf. Mae colostrwm yn gyfoethog mewn protein a hefyd yn cynnwys gwrthgyrff yn ogystal â llawer o ffactorau amddiffynol pwysig eraill sy'n amddiffyn eich babi yn ystod y cyfnod hwn.

Yr ychydig ddyddiau cyntaf y tu allan i groth mam

Mae ar fabanod angen cyflwyniad graddol ac ysgafn i fywyd y tu allan i'r groth. Mae cyfaint y Colostrwm yn cynyddu’n raddol bob dydd sy'n caniatâu i arennau eich babi addasu i'r newid o gael ei fwydo gan linyn y bogail.

Faint sydd ar fy mabi ei angen?

Mae bol babi newydd-anedig yn fach iawn, maint marblen fechan mewn gwirionedd. Mae’ch corff yn gwybod bod ar eich babi angen symiau bach o fwyd yn unig. Mae llwy de neu ddwy (5-10 ml) yn unig o golostrwm yn darparu'r holl faeth ac amddiffyniad sydd ar eich babi ei angen.

Newidiadau ar y 3ydd diwrnod

Ar y trydydd diwrnod ar ôl yr enedigaeth neu’n agos at hynny, mae llif y llaeth yn cynyddu a gallai eich bronnau deimlo'n llawnach ond mae hyn yn setlo i lawr yn fuan. O hyn ymlaen, mae llaeth mam yn newid yn barhaus i gwrdd ag anghenion ei babi sy'n tyfu; mae hwn yn gwbl wahanol i laeth fformiwla sydd byth yn newid ac nid yw'n darparu unrhyw amddiffyniad i'ch babi.