Neidio i'r prif gynnwy

Cefnogi eich partner gyda bwydo ar y fron

Llongyfarchiadau, rydych chi'n mynd i fod yn rhiant. Yn naturiol, rydych chi eisiau'r gorau i'ch plentyn newydd. Mae'n debyg eich bod am chwarae rhan lawn yng ngofal eich babi newydd ac efallai eich bod yn meddwl sut yw'r ffordd orau i helpu. Mae llawer o rieni newydd yn penderfynu bwydo eu babi ar y fron, ac efallai y byddwch am ddysgu mwy am fwydo ar y fron.

Sut alla i helpu fy mhartner sy'n bwydo ar y fron?

Mae gan dadau a phartneriaid ran bwysig iawn i’w chwarae wrth helpu gyda’r babi newydd:

  • Newid cewyn y babi, rhoi bath i’r babi, codi gwynt a setlo’r babi ar ôl bwydo.
  • Bydd gwneud pethau ymarferol fel glanhau, coginio, golchi dillad, mynd i siopa, gwneud paned o de neu ddal y babi tra bod y fam yn cael bath yn gwneud gwahaniaeth enfawr.
  • Mae gofalu am unrhyw blant hŷn yn aml yn ddefnyddiol hefyd.
  • Anogwch eich partner i ofyn am help os yw’n ymddangos nad yw pethau’n iawn.
  • Bydd o leiaf awr o gyswllt croen â’ch babi bob dydd yn eich helpu i fondio a ffurfio perthynas agos â’ch babi.

Dysgu rhagor am gefnogi'ch teulu gyda bwydo ar y fron.

Byddwch yn bositif am eich partner yn bwydo ar y fron: dywedwch wrthi ei bod yn gwneud yn wych a'ch bod yn falch ohoni!