Neidio i'r prif gynnwy

Bwydo â photel

Rydym yn hyrwyddo bwydo ar y fron fel y dewis mwyaf iachus o fwydo i famau a'u babanod. Byddwn yn darparu cefnogaeth a gwybodaeth i'r holl famau ni waeth sut y byddant yn dewis bwydo eu babi. Os ydych yn dymuno gwasgu eich llaeth allan o'r fron â llaw a'i fwydo i'ch babi trwy botel, bydd ein staff yn eich cefnogi gyda’r dewis hwn. Os ydych yn dewis peidio bwydo ar y fron, bydd ein staff yn sicrhau eich bod yn cael eich cefnogi i ddysgu sut i baratoi ffîdiau mor ddiogel â phosibl er mwyn lleihau'r risg o salwch, a dysgu sut i fwydo’r babi mewn modd rheolaidd ac ymatebol.

I rieni newydd sydd wedi penderfynu bwydo eu babi â fformiwla, mae dal lawer i'w ddysgu. Wrth fwydo â photel, fe argymhellir eich bod yn defnyddio bwydo â photel mewn ffordd ymatebol sy'n helpu i gefnogi datblygiad perthynas glos a chariadus rhwng y rhiant a’r babi. 

Gall llaeth fformiwla babanod a werthir yn y DU amrywio cryn dipyn o ran cost ond mae gan bob un gynnwys maethol tebyg er mwyn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â rheoliadau’r DU a’u bod yn ddigonol ar lefel faethol. Efallai y caiff rhai mathau o laeth fformiwla babanod eu hysbysebu i awgrymu eu bod yn well na brandiau eraill os ydynt yn cynnwys cynhwysion ychwanegol. Er hynny, os nad oes digon o dystiolaeth ddibynadwy y bydd cynhwysion ychwanegol yn cael effaith bositif ar iechyd babanod, yna maent yn ddiangen ac nid oes gofyn eu hychwanegu fel rhan o’r rheoliadau.

Gall y gwahanol fathau o fformiwla babanod fod yn ddryslyd. Gallwch ganfod rhagor am y gwahanol fathau o fformiwla babanod o wefan GIG a First Steps Nutrition Trust.

Mae’n bwysig wth fwydo â photel eich bod yn paratoi potel eich babi yn ddiogel gan nad yw fformiwla powdr babanod yn ddi-haint ac mae angen ei baratoi ar dymheredd fydd yn lladd unrhyw facteria posibl. Mae angen sterileiddio’r holl offer hefyd. Dewch o hyd i fwy o wybodaeth ar wefan First Steps Nutrition Trust.