Neidio i'r prif gynnwy

Bwydo ar y fron wrth fynd allan yng Ngogledd Cymru

Gall y syniad o fwydo eich babi ar y fron pan fyddwch yn mynd allan deimlo ychydig yn frawychus ar y dechrau ond gall ychydig o gynllunio a pharatoi wneud i chi deimlo'n fwy hyderus. 

Mae gan fam a babi hawl gyfreithlon warchodedig i fwydo ar y fron mewn mannau cyhoeddus.

  • Efallai y bydd yn helpu i ymarfer bwydo o flaen drych mawr gartref; byddwch wedyn yn gweld sut yr ydych yn edrych i bobl eraill. Nid yw’r rhan fwyaf o bobl fel arfer yn sylwi bod babi yn bwydo ar y fron.
  • Gall cael wal tu ôl i'ch cefn neu i'ch ochr tra'n bwydo mewn caffi wneud i chi deimlo'n fwy hyderus. Bydd cael ffrind neu berthynas cefnogol gyda chi yn eich helpu yn y dyddiau cynnar.
  • Gall "coflaid y crud" fod yn fwy doeth ar gyfer bwydo yn gyhoeddus - os nad ydych yn siŵr, gofynnwch i'ch bydwraig neu ymwelydd iechyd ddangos i chi sut i fwydo fel hyn.
  • Mae gwisgo haenau a thop/cardigan neu siaced sy'n agor yn y blaen dros eich top yn helpu i osgoi dangos eich bol a'ch canol.
  • Gall haenu eich topiau fod o gymorth. Gall dau dop ysgafn, rhydd fod yn haws ar gyfer bwydo a gallwch daro eich babi o dan y top sy'n ffitio'n llac heb ddangos eich hun yn ormodol.
  • Gydag ymarfer, gallwch fwydo eich babi ar y fron yn y rhan fwyaf o slingiau neu ddeunydd lapio a bydd deunydd y cariwr babi yn gorchuddio’r babi a'ch bron.
  • Cariwch sgarff cotwm neu sidan yn eich bag fel os ydych yn teimlo ychydig yn ansicr ohonoch eich hun wrth fwydo, gall y sgarff gael ei daenu dros eich ysgwydd ac ar draws y babi. Bydd hyn yn edrych yn fwy fel gwisg arferol na defnyddio cadach mwslin neu flanced babi sy'n gallu gwneud i fabi edrych yn anghyfforddus o gynnes.
  • Os oes gennych gar, efallai y byddwch yn ei weld yn ddefnyddiol bwydo'r babi yn y car pan fyddwch yn cyrraedd pen eich taith, fel bod y babi wedi derbyn ffîd dda cyn i chi fynd i siopa.

Byddai'n well gan y rhan fwyaf o leoedd gael babi hapus, distaw yn bwydo yn hytrach nag un llwglyd yn crio! Uwchlaw popeth, edrychwch yn hyderus a byddwch yn FALCH eich bod yn rhoi'r dechrau gorau mewn bywyd i'ch babi!

Mae’r cynllun Bwydo ar y Fron yn tynnu sylw at y safleoedd hynny sy’n annog ac yn cefnogi merched i Fwydo ar y Fron.

Mae lleoliadau ar draws Gogledd Cymru wedi cofrestru i gefnogi mamau newydd i fwydo ar y fron pan fyddant allan o’r tŷ.

Cadwch lygad am y logo Croesawu Bwydo ar y Fron mewn siopau a safleoedd wrth eich ymyl chi.