Neidio i'r prif gynnwy

Heriau Bwydo ar y fron

Os ydych yn cael trafferth i fwydo eich babi ar y fron, cofiwch fe all bwydo ar y fron fod y dull naturiol i fwydo babi ond mae’n sgil sydd angen cael ei dysgu gan y ddau ohonoch. Fel y rhan fwyaf o bethau, ni allwch chi ddisgwyl ei wneud yn iawn yn syth. 

Cael cymorth a chefnogaeth

Siaradwch â mamau eraill sy'n bwydo ar y fron a Chyfeillion Cefnogol yn y grwpiau bwydo ar y fron a thrwy ein grwpiau lleol Facebook "ffrindiau bwydo ar y fron". Gallwch hefyd gysylltu â'ch Bydwraig/ Ymwelydd Iechyd am gyngor. Cofiwch fod staff hyfforddedig ar draws Gogledd Cymru a fydd yn gallu eich cefnogi chi i ddal ati i fwydo ar y fron.

Os ydych yn meddwl am roi’r gorau i fwydo ar y fron, cyn gwneud y penderfyniad ystyriwch:  

  • Oes rhywun wedi rhoi pwysau arnoch i roi’r gorau iddi? Ydy’r wybodaeth rydych wedi ei derbyn gan eich ffrindiau, teulu neu hyd yn oed weithwyr iechyd proffesiynol, yn gywir? 
  • Ydych chi wedi arbrofi gyda'ch bwydo ar y fron? Ydych chi wedi rhoi cynnig ar safleoedd gwahanol neu hyd yn oed wasgu llaeth allan a bwydo eich babi o gwpan/llwy? 
  • Ydy bwydo cymysg yn opsiwn?  Er nad yn ddelfrydol yn y dyddiau cynnar, fe all bwydo cymysg fod yn opsiwn yn nes ymlaen os ydych yn dymuno dychwelyd i’r gwaith neu os na allwch greu cyflenwad llawn o laeth. 
  • Gallwch gymryd eich amser. Nid oes rhaid i chi ruthro i roi’r gorau i fwydo ar y fron, mae diddyfnu eich babi yn araf yn aml y peth gorau i'r ddau ohonoch. 
  • Mae hi'n iawn i newid eich meddwl. Os ydych yn rhoi’r gorau i fwydo ar y fron ond yn penderfynu yn ddiweddarach dechrau bwydo ar y fron eto, gall hynny fod yn bosibl. Dewch o hyd i ragor ar wefan Cymdeithas Mamau sy’n Bwydo ar y Fron

Yn olaf, os ydych wedi gorfod stopio bwydo ar y fron, cofiwch fod unrhyw faint o fwydo ar y fron yn dda i chi a'ch babi. 

Mae rhesymau i fod yn falch hyd yn oed os ydych ond yn gallu bwydo ar y fron am gyfnod byr. Cliciwch yma am ddadansoddiad o'r manteision iechyd bendigedig rydych yn eu rhoi i'ch babi o'r ffîd gyntaf hyd at 1 flwyddyn neu fwy. 

Os ydych yn teimlo'n isel neu’n ofidus, siaradwch â'ch Gweithiwr Iechyd Proffesiynol a fydd yn gallu eich cefnogi chi. 

Dywedodd Belinda Phipps o Ymddiriedolaeth Genedlaethol Geni Plant: "Oherwydd bod y manteision yn dechrau yn syth o'r ffîd gyntaf, mae unrhyw faint o fwydo ar y fron yn rheswm dros deimlo'n falch".