Neidio i'r prif gynnwy

Helpa Fi i Stopio yn y Fferyllfa

Mynnwch help i roi'r gorau i ysmygu o'ch fferyllfa gymunedol leol

Mae Helpa Fi i Stopio yn y Fferyllfa yn cynnig cymorth a chyngor un-i-un cyfleus ac effeithiol i ysmygwyr sydd am roi'r gorau iddi. Gallwch siarad ag aelod o'r tîm cyfeillgar yn eich fferyllfa leol am sut rydych chi’n dod ymlaen, cael cymorth ymddygiadol wythnosol strwythuredig i’ch helpu i gadw ato, a chael mynediad at feddyginiaethau rhoi’r gorau i ysmygu gwerth hyd at £250.

Mae mwy na 100 o fferyllfeydd ar draws Gogledd Cymru yn cynnig gwasanaeth Helpa Fi i Stopio - felly mae yna un ar y stryd fawr yn agos atoch chi!

 

Rydych chi bedair gwaith yn fwy tebygol o roi'r gorau iddi yn llwyddiannus gyda chefnogaeth Helpa Fi i Stopio

Mae ein holl gefnogaeth yn rhad ac am ddim, ac yn anfeirniadol. Rydyn ni yma i'ch helpu chi i roi'r gorau iddi - a gallwn roi awgrymiadau i chi i'ch helpu i osgoi neu reoli sefyllfaoedd anodd, rheoli'ch chwantau, a rhoi'r gorau iddi am byth.

Canfyddwch a yw eich fferyllfa leol yn cymryd rhan a chysylltwch i ddechrau rhoi'r gorau iddi heddiw.

 

 

Neu gallwch gael cymorth a chefnogaeth gan ymgynghorydd Helpa Fi i Stopio wyneb yn wyneb neu dros y ffôn trwy ffonio 0800 085 2219 neu drwy gwblhau’r ffurflen ar-lein i ddatgan eich diddordeb.