Neidio i'r prif gynnwy

Pŵer Ieuenctid: Ein Gwirfoddolwyr Ifanc

Stori Gwirfoddolwr Cyhoeddus Emma Winterbottom

Dechreuais wirfoddoli yng Nghanolfan Feddygol Bwcle ar y 5ed o Fehefin 2020, a gorffen ar yr 28ain o Ebrill 2021 - bron i 11 mis! Yn ystod y cyfnod clo cyntaf, roeddwn i'n casáu eistedd gartref yn gwybod bod pobl yn dioddef ac yn marw, ond nad oedd llawer y gallwn ei wneud - a dyna pam y gwnes i gais i fod yn wirfoddolwr i’r GIG. Rwyf bob amser wedi bod yn rhywun sydd wrth ei bodd yn helpu, ac roeddwn o’r farn y byddai unrhyw beth y gallwn ei wneud i helpu yn werth chweil. Rwyf hefyd yn awyddus i fod yn Therapydd Iaith a Lleferydd, ac am ennill profiad mewn unrhyw leoliad gofal iechyd y gallwn ei gael. Wrth aros i glywed yn ôl, cefais wybod gan rywun roeddwn i'n ei adnabod fod gwirfoddoli yn 'wrthgynhyrchiol' ac y byddai’n llawer gwell imi aros gartref. Wnaeth hyn ddim ond fy ngwneud yn fwy penderfynol fyth o helpu gymaint ag y gallwn!

Dechreuais trwy wneud 2 fis yn yr adran fflebotomi yng Nghanolfan Feddygol Bwcle: roedd y prif ddrysau wedi'u cloi ac felly roedd yn rhaid i unrhyw un â phrawf gwaed ddod at ddrws ochr i gael mynediad. Fy ngwaith oedd hebrwng cleifion o'r drws ochr at yr adran fflebotomi, gan sicrhau nad oedd ganddynt unrhyw symptomau. Fe wnes i hyn ddau fore'r wythnos. Roedd y fflebotomyddion y bûm yn gweithio gyda nhw i gyd mor gyfeillgar a hyfryd, a mwynheais fy amser gyda nhw yn fawr. Ddiwedd mis Gorffennaf agorwyd y prif ddrysau, gan olygu nad oedd fy angen mwyach: fodd bynnag, roedd mwy o wirfoddolwyr yn cael eu recriwtio fel 'cyfarchwyr' ar y prif ddrws, a deuthum yn un o'r cyfarchwyr rheini am y 9 mis nesaf. Parheais i weithio rhwng 4-8 awr yr wythnos. Cawsom ein paru gan ddelio ag unrhyw un oedd yn dod i ddrws y ganolfan feddygol. Roedd ein dyletswyddau'n cynnwys gadael pobl i mewn ar gyfer apwyntiadau (sicrhau eu bod yn diheintio eu dwylo, heb unrhyw symptomau ac yn gwisgo gorchudd wyneb), dosbarthu presgripsiynau, didoli ffurflenni cofrestru, derbyn danfoniadau, ateb cwestiynau a chysylltu â derbynfa’r ddwy feddygfa ynghylch unrhyw ymholiadau. Fe wnes i’n siŵr fy mod i mor gyfeillgar â phosib gyda’r rhai nad oeddent prin wedi gadael y tŷ eleni, neu unrhyw un a oedd yn teimlo'n nerfus ynghylch mynychu apwyntiad. Roedd mwyafrif y bobl y gwnes i eu cyfarfod yn hyfryd, ac roedd llawer yn ddiolchgar iawn am y gwaith roedden ni'n ei wneud. Cawsom ychydig o bobl a oedd yn anghwrtais ac yn ymosodol ond diolch byth mai lleiafrif oedden nhw, a chynigiwyd ymddiheuriadau a chefnogaeth inni gan reolwr y practis a'r derbynyddion pryd bynnag y byddai hynny’n digwydd.

Fe wnes i fwynhau fy amser fel gwirfoddolwr yn fawr, am ddau brif reswm. Yn gyntaf, llwyddais i gael profiad amhrisiadwy o weithio a chyfathrebu ag ystod enfawr o bobl, a gwn y bydd y profiad hwn o gymorth mawr imi fel Therapydd Iaith a Lleferydd. Yn ail, roedd y bobl y bûm yn gweithio gyda nhw yn codi fy nghalon yn ddyddiol; o fy nghyd-wirfoddolwyr, i'r merched yn y dderbynfa, y meddygon a'r nyrsys, y deintyddion, podiatryddion, fflebotomyddion, bydwragedd - mae'r rhestr yn hirfaith. Roedd pawb a weithiodd yno yn hollol wych ac yn gwneud inni deimlo bod croeso inni yno bob amser. Rwyf mor ffodus fy mod wedi gallu bod yn rhan o deulu'r GIG a dwi methu aros i fynd yn ôl!