Neidio i'r prif gynnwy

Trefniadau Ymweld Cyffredinol

Canllawiau ymweld mamolaeth yma.

Mae ein hysbytai yn hollol ddi-fwg: Gwybodaeth i ddiogelu ein cleifion, ein staff, a'n hymwelwyr rhag effeithiau niweidiol ysmygu. 

Gwyddom ei bod yn bwysig i anwyliaid ymweld â'n cleifion. Fel Bwrdd Iechyd, rydym yn disgwyl cael cefnogaeth a pharch ein hymwelwyr o ran cynnal diogelwch ein cleifion trwy ddilyn y mesurau ymweld sydd ar waith ar yr adeg.

Efallai yr ailgyflwynir cyfyngiadau ar ymweliadau yn ddirybudd os bydd arwyddion neu achosion o heintiau ar y wardiau, i ddiogelu ein cleifion, ymwelwyr a'n staff.

Amseroedd ymweld

Mae amseroedd ymweld ag ysbytai yn Ysbyty Glan Clwyd, Ysbyty Maelor Wrecsam ac Ysbyty Gwynedd yn amrywio rhwng 10am ac 8pm. Gwiriwch gyda'r ward neu'r adran yn uniongyrchol i ddod o hyd i argaeledd ac amseroedd ymweld penodol. Gall amseroedd ymweld amrywio ar safleoedd ysbytai cymunedol.

Pryd i wisgo masgiau wyneb

Nid yw'n ofynnol i staff, cleifion ac ymwelwyr wisgo masg wyneb ar safleoedd y bwrdd iechyd mwyach, gan gynnwys mannau cyhoeddus a chlinigol, ac eithrio yn yr achosion canlynol:

  • Dylid gwisgo masgiau wyneb mewn lleoliadau lle bo risg fawr o haint i gleifion oherwydd system imiwnedd wan e.e.  oncoleg neu haematoleg.
  • Dylid rhoi masg wyneb ar adeg derbyn cleifion mewnol sydd â haint anadlol tybiedig neu Haint Anadlol Acíwt (ARI) e.e. COVID-19, y Ffliw. Dylid ei wisgo mewn mannau lle bo baeau â gwelyau lluosog a mannau cymunedol e.e. mannau aros ar gyfer diagnosteg.
  • Nid yw'n ofynnol i gleifion mewnol sydd ag ARI tybiedig neu ARI sydd wedi'i gadarnhau mewn ystafell sengl wisgo masg wyneb oni bai bod ymwelydd yn mynd i mewn, neu os bydd angen cadw drws yr ystafell ar agor.
  • Dylai cleifion sydd ag ARI tybiedig neu ARI sydd wedi'i gadarnhau sy'n cael eu trosglwyddo i fan gofal arall wisgo masg wyneb.  
  • Dylai cleifion allanol sydd ag ARI tybiedig neu ARI sydd wedi'i gadarnhau wisgo masg/gorchudd wyneb a dylid cynnig masg iddynt pan fyddant yn cyrraedd.

Nid yw'n ofynnol i gleifion wisgo masg wyneb lle nad oes amheuaeth neu gadarnhad o ARI oni bai eu bod yn dewis gwneud hynny, neu os ydynt yn derbyn gofal mewn lleoliadau lle bo gan gleifion risg fawr o haint oherwydd system imiwnedd wan e.e. oncoleg neu haematoleg.

Nid oes gofyniad i ymwelwyr sy'n cadw cwmni i gleifion wisgo masg wyneb fel mater o drefn oni bai eu bod yn dewis gwneud hynny neu os oes achosion o haint yn yr ardal ymweld.

Trefniadau cyffredinol o ran ymweliadau

  • Nid oes angen i ymwelwyr gael eu sgrinio'n unigol na'u brysbennu yn y rhan fwyaf o'r mannau.
  • Cadwch at y rheolau ynghylch glendid dwylo. Glanhewch eich dwylo gan ddefnyddio hylif alcohol neu ddŵr a sebon cyn gynted ag y byddwch yn cyrraedd yr ysbyty. Glanhewch hwy eto os byddwch yn cyffwrdd ag unrhyw arwynebau, megis handlenni drysau, ac eto cyn cyffwrdd ac unrhyw beth sy'n eiddo i glaf neu arwynebau y buasent yn eu defnyddio.
  • Os bydd ymwelwyr yn ymweld â chlaf sydd â haint neu fan gofal ble mae cleifion heintus, byddant yn cael eu hysbysu am unrhyw risgiau o ran heintiau a chynigir offer amddiffynnol personol priodol iddynt. Efallai bydd rhywfaint o gyfyngiadau ychwanegol ar waith, felly cysylltwch â rheolwr y ward i gael rhagor o gyngor.
  • Pan fydd ward ar gau oherwydd achosion, ni ddylid ystyried ymweld â chlaf ac eithrio dan amgylchiadau eithriadol, er enghraifft, os bydd claf yn cael gofal diwedd oes, neu os oes gan glaf ddementia neu anableddau dysgu.
  • Gofynnir i ymwelwyr beidio â dod i'r ysbyty os oes ganddynt hwy neu os bydd gan aelodau eu haelwyd symptomau sy'n awgrymu COVID-19 neu'r ffliw.
  • Gofynnir i ymwelwyr beidio â dod i'r ysbyty os ydynt hwy, neu os yw aelodau eraill eu haelwyd, wedi cael dolur rhydd a/neu wedi bod yn chwydu (symptomau sy'n awgrymu byg stumog/norofeirws) yn ystod y 72 awr ddiwethaf. Os gwnewch chi ymweld â'r ysbyty, byddwch yn peryglu lles eich anwyliaid a bydd hynny hefyd yn bygwth iechyd ein staff, a fydd yn methu â gofalu am y boblogaeth os byddant yn dal haint.
  • Ni ddylai ymwelwyr sy'n debygol o ddal heintiau (oherwydd eu hoedran neu eu cyflwr) ymweld â phobl sydd yn yr ysbyty. Dylai rheolwr y ward asesu’r sefyllfa a gwneud penderfyniad unigol ynghylch ymweliadau gan blant.
  • Byddwn yn ceisio sicrhau bod ein trefniadau ymweld mor hyblyg ag y bo modd, ond ni ddylai mwy na dau ymwelydd fod wrth wely claf ar yr un pryd, oni bydd amgylchiadau eithriadol (fel y nodir isod).
    • Dim ond Rheolwr y Ward a all wneud penderfyniadau am nifer yr ymwelwyr.
    • Dylech holi staff y Ward/Adran ynghylch argaeledd ymweliadau a'r amseroedd ymweld.

Canllawiau Ymweld Unedau'r Newydd-anedig 

  • Ni all unrhyw riant, lle bo amheuaeth neu gadarnhad eu bod yn bositif am Covid, ymweld hyd nes eu bod wedi cwblhau'r cyfnod ynysu a hyd nes bod eu prawf LFT yn negatif.
  • Os na all y rhiant ddod i Uned y Newydd-anedig gan ei fod yn bositif am Covid, gall enwebu unigolyn o'i ddewis.
  • Dim ond dau unigolyn o amgylch y crud a ganiateir a ddylai un o'r rhain yn rhiant
  • Brodyr a chwiorydd i ymweld ochr yn ochr â'r rhieni i hybu safonau'r Fenter Cyfeillgar i Fabanod a Gofal Integredig i Deuluoedd
  • Amseroedd ymweld dwywaith y dydd ar gyfer y teulu estynedig
  • Masgiau wyneb ar gael i staff a rhieni os byddant yn penderfynu eu gwisgo
  • Pe bai unrhyw achosion newydd o heintiau'n codi, dychwelyd at ganiatáu i rieni yn unig fod yn bresennol ar yr uned gyda'u babi.

Arweiniad ar ymweld â gwasanaethau pediatrig

Wedi'i ddiweddaru 23/8/2022

Ni fydd gofyn i rieni sy'n bresennol gyda'u babi neu eu plentyn/unigolyn ifanc fel claf mewnol roi tystiolaeth o brawf LFD negatif mwyach. Os oes gan riant symptomau Covid neu os yw wedi'i gadarnhau fel achos Covid-19, mae angen tynnu sylw'r nyrs â chyfrifoldeb at hyn yn syth.

Arweiniad Ychwanegol ar Ymweld â Gwasanaethau Pediatrig i'r holl ymwelwyr:

  • Mae gan rieni neu brif ofalwyr fynediad anghyfyngedig yn ystod y dydd i aros gyda'u plentyn ar yr uned/ward. (un rhiant yn ystod y nos yn unig)
  • Gall brodyr a chwiorydd ymweld ond dim ond dau unigolyn a gaiff fod o amgylch y crud/gwely a dylai un o'r rhain fod yn rhiant
  • Mae'n rhaid i'r holl ymwelwyr ddilyn cyngor ac arweiniad staff
  • Mae'n rhaid i'r holl ymwelwyr ddilyn arferion da o ran hylendid y dwylo a golchi'r dwylo, gan gynnwys defnyddio'r gel alcohol a ddarperir ar y ward/uned
  • Mae'n rhaid i'r holl ymwelwyr ddilyn arferion da o ran hylendid resbiradol, sef dull 'Ei ddal, ei daflu, ei ddifa'
  • Mae'n rhaid i'r holl ymwelwyr gyfyngu ar eitemau personol gymaint â phosibl a'u cadw yn eu meddiant bob amser
  • Siaradwch â staff a rhannwch unrhyw bryderon sydd gennych fel bo modd i ni ddod o hyd i ddatrysiad.
  • Mae masgiau wyneb ar gael i staff a rhieni os byddant yn penderfynu eu gwisgo
  • Gall y sefyllfa mewn lleoliad gofal iechyd newid yn gyflym. Er diogelwch ein cleifion, ymwelwyr a staff, efallai y caiff cyfyngiadau eu hail-gyflwyno ar fyr rybudd. Byddwn yn parhau i gael ein llywio gan gyfraddau trosglwyddo yn y gymuned, niferoedd derbyn oherwydd COVID-19, achosion mewn ysbytai, Polisi Rheoli ac Atal Heintiau ac asesiadau risg lleol.

Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt i Gleifion (PALS)

Mae ein Gwasanaeth Cyngor a Chyswllt i Gleifion (PALS)  yma i'ch helpu chi. Bydd ein Swyddogion PALS yn gwneud eu gorau i ddatrys problemau’n gyflym ac yn uniongyrchol gyda’r staff dan sylw. Os bydd gennych unrhyw ymholiad am y cyfyngiadau ar ymweld neu bryder ynghylch ffrind neu berthynas sydd wedi’i dderbyn i’r ysbyty, cysylltwch â PALS (9am tan 5pm, dydd Llun i ddydd Gwener ac eithrio gwyliau banc).