Neidio i'r prif gynnwy

Y Diweddaraf ar Frechlynnau

Gan Gill Harris - Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth

Mae dros dri chwarter o oedolion yng Ngogledd Cymru wedi derbyn o leiaf un dos o'r brechlyn rhag COVID-19 erbyn hyn ac rydym yn parhau i fod ar y trywydd cywir i gynnig brechiadau i weddill y boblogaeth sy'n oedolion cyn diwedd mis Gorffennaf.

Hon yw'r rhaglen frechu fwyaf erioed i gael ei chynnig gan y GIG a'r gwir amdani yw, na allem fod wedi amddiffyn cynifer o bobl mor gyflym heb arbenigedd ac ymroddiad ein cydweithwyr gofal cychwynnol mewn meddygfeydd, Canolfannau Brechu Lleol a fferyllfeydd cymunedol.

Hoffwn ddiolch o waelod calon i bob un o'n partneriaid gofal cychwynnol am y ffordd ddi-oed a phositif iawn y gwnaethant ymateb i'r newid i'r arweiniad cenedlaethol ar ddefnyddio brechlyn AstraZeneca Rhydychen yr wythnos ddiwethaf.

Newid i arweiniad JCVI a MHRA

Yr wythnos ddiwethaf, gwnaeth y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) a'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) newid eu harweiniad i ddatgan, lle bo'n bosibl, y dylid cynnig dewis amgen yn hytrach na brechlyn AstraZeneca Rhydychen i bobl rhwng 30 a 39 oed fel mesur rhagofalus, oherwydd y risg hynod fach y gallai'r grŵp oedran hwn ddioddef clotiau gwaed.

O ganlyniad, bydd y rhai rhwng 18 a 39 oed bellach yn derbyn brechlyn Pfizer, a bydd y rhai dros 40 oed yn derbyn brechlyn AstraZeneca Rhydychen.

Arweiniodd y newid byr rybudd hwn, yn anochel, at ganslo nifer o apwyntiadau'r wythnos ddiwethaf, ac ers hynny, mae'r rheiny wedi cael eu haildrefnu. Nid ydym yn disgwyl i'r newid hwn yn yr arweiniad beri oedi o ran cyflwyno'r rhaglen frechu yn gyffredinol yng Ngogledd Cymru.

Dylai pawb sydd eisoes wedi derbyn dos cyntaf o frechlyn AstraZeneca Rhydychen fod yn sicr ei bod yn ddiogel derbyn ail ddos o'r un brand, waeth beth fo'u hoedran, yn unol â chyngor JCVI. Efallai y bydd eithriadau meddygol yn berthnasol i leiafrif bach iawn.

Mae'r cyhoeddiad ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru yma.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael hefyd ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yma.

Cynnydd o ran brechu o 11 Ebrill 2021:

  • Mae cyfanswm o 640,259 o frechiadau wedi'u rhoi yng Ngogledd Cymru
  • Brechlynnau dos cyntaf –433,350
  • Brechlynnau ail ddos –206,909

Canran y bobl mewn Grwpiau Blaenoriaeth sydd wedi derbyn dos cyntaf:

  • Pobl rhwng 65 a 69 oed: 94 y cant
  • Pobl rhwng 16 a 64 oed mewn grŵp sydd mewn perygl: 86 y cant
  • Pobl rhwng 60 a 64 oed: 89 y cant
  • Pobl rhwng 55 a 59 oed: 86 y cant
  • Pobl rhwng 55 a 54 oed: 85 y cant
  • Pobl rhwng 40 a 49 oed: 55 y cant
  • Pobl rhwng 30 a 39 oed: 22 y cant
  • Pobl rhwng 18 a 29 oed: 44 y cant

Mae dadansoddiad manwl o Raglen Frechu rhag COVID-19 yng Ngogledd Cymru ar gael ar ein gwefan: Ystadegau brechu - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (nhs.wales).

Colli apwyntiadau

Rydym yn parhau i weld nifer fawr o bobl sy'n methu â mynychu eu hapwyntiadau.

Nid yw brechlynnau byth yn cael eu taflu i ffwrdd, gan ein bod yn gallu galw ar bobl ar fyr rybudd, ond mae pob apwyntiad sy'n cael ei golli'n gwastraffu adnoddau hollbwysig y GIG ac mae'n creu heriau logistaidd sylweddol i'n staff.

Er bod nifer fach o'r apwyntiadau sy'n cael eu colli o ganlyniad i ddyblygu apwyntiadau, manylion cyswllt anghywir neu gan fod llythyrau apwyntiadau'n hwyr yn cyrraedd, gwyddom yn y rhan helaethaf o achosion, fod hyn yn codi gan nad yw pobl wedi rhoi gwybod i ni na allant fynychu, neu nad ydynt yn awyddus i gael eu brechu.

Canolfan Gyswllt Brechiadau COVID-19

Rydym yn gweithio'n galed i gynyddu nifer y gweithredwyr galwadau yn ein Canolfan Gyswllt Brechiadau COVID-19 ac rydym yn cydnabod bod rhai pobl yn aros yn hirach o lawer nag y byddem yn dymuno i ni ddelio â'u galwad.

Helpwch ni i'ch helpu chi trwy ffonio ein Canolfan Gyswllt Brechiadau COVID-19 am y rhesymau a ganlyn yn unig

  • Rydych wedi derbyn gwahoddiad i gysylltu â ni i ganslo apwyntiad neu i'w ddiwygio
  • Rydych yn 40 oed ac yn hŷn neu mewn grŵp sydd mewn perygl, nid ydych wedi derbyn apwyntiad am eich dos cyntaf, ac nid ydych wedi gallu cael mynediad at y rhyngrwyd i gwblhau ein ffurflen ar-lein (byddwn yn cymryd eich manylion cyswllt a byddwn yn eich ffonio'n ôl i drefnu apwyntiad)
  • Derbynioch eich dos cyntaf yn unrhyw le ar wahân i feddygfa, ac rydych wedi bod yn aros mwy na 11 wythnos am apwyntiad ar gyfer eich ail ddos

Rhif ffôn y Ganolfan Gyswllt Brechiadau COVID-19 yw 03000 840004 ac mae'r llinellau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, rhwng 8am a 6pm ac o ddydd  Sadwrn i ddydd Sul, rhwng 9am a 1pm.

Os ydych rhwng 18 a 39 oed, gofynnwn i chi fod yn amyneddgar - ni ddylech fod yn aros am yn rhy hir bellach.

Apwyntiadau byr dymor

Er mwyn osgoi gwastraffu unrhyw frechlynnau gan nad yw pobl wedi dod i apwyntiadau, o dro i dro, mae'n bosibl y byddwn yn cynnig apwyntiadau byr dymor i bobl mewn grwpiau oedran penodol ar sail y cyntaf i'r felin.

Yn ogystal, efallai y bydd achlysuron pan fyddwn yn gwahodd pobl mewn grwpiau oedran penodol i drefnu apwyntiad gyda ni'n uniongyrchol.

Pan fydd yr apwyntiadau hyn ar gael, byddwn yn cyhoeddi hyn trwy ein cyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn rhannu manylion gyda'r cyfryngau lleol, lle bo'n bosibl.

A gaf i ddewis pa frechlyn y byddaf yn ei dderbyn?

Nid yw'n bosibl i unigolion ddewis pa frand o'r brechlyn y byddant yn ei dderbyn ar gyfer y dos cyntaf neu'r ail ddos. Yn unol ag arweiniad diweddaraf JCVI a MHRA, bydd y rheiny rhwng 18 a 39 oed yn derbyn brechlyn Pfizer, a bydd y rheiny dros 40 oed yn derbyn brechlyn AstraZeneca Rhydychen.

Mae'n rhaid i ail ddosiau o frechlyn COVID-19 fod o'r un brand â'r dos cyntaf, oni bai bod angen clinigol amlwg am ddewis arall.

Nid oes unrhyw dystiolaeth glinigol ar hyn o bryd i ddangos bod clotiau gwaed yn ymddangos yn dilyn cael ail ddos o unrhyw frechlyn rhag COVID-19. Felly, dim ond y rhai sydd â ffactorau risg glinigol penodol fydd yn cael cynnig dewis arall o ran yr ail ddos o'r brechlyn.

Dylech barhau i fynychu eich apwyntiad os bydd gennych unrhyw bryderon ynghylch y brechlyn, fel y gallwn gymryd yr amser i drafod y rhain gyda chi cyn i chi benderfynu p'un i barhau gyda'r brechiad ai peidio.

Rhagor o wybodaeth am Raglen Frechu rhag COVID-19 Gogledd Cymru

I gael rhagor o wybodaeth am Raglen Frechu rhag COVID-19 Gogledd Cymru, gan gynnwys atebion i Gwestiynau Cyffredin, ewch i'n gwefan: https://bipbc.gig.cymru/covid-19/brechlyn-covid-19/

Gallwch hefyd ddod o hyd i wybodaeth ddibynadwy am ddiogelwch a chymhwyster brechlynnau ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yma: Gwybodaeth Brechlyn COVID-19 - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)