Neidio i'r prif gynnwy

Ymchwil COVID-19 yng Ngogledd Cymru

Mae ymchwil yn cael ei wneud ar y cyfnod dechreuol sydyn (a elwir hefyd yn COVID Hir) ar draws y Deyrnas Unedig ac yn fyd-eang i'n helpu i ddeall sut i drin y clefyd hwn a sut i amddiffyn ein hunain rhagddo.  Ar hyn o bryd dim ond ychydig o wybodaeth sydd ar gael am effeithiau tymor hir COVID-19, a beth fydd anghenion meddygol, seicolegol ac adsefydlu parhaus y grŵp hwn o gleifion i ganiatau iddynt gael adferiad mor llawn â phosibl.

Ar hyn o bryd mae ein Hadran Ymchwil a Datblygiad yma yng Ngogledd Cymru yn recriwtio unigolion i gymryd rhan mewn astudiaeth ymchwil tymor hir a ariennir a elwir yn PHOSP-COVID. Y nod yw recriwtio 10,000 o gleifion ar draws y Deyrnas Unedig sydd wedi cael eu derbyn i'r ysbyty gyda COVID-19.  Dros gyfnod o flwyddyn, bydd asesiadau clinigol yn olrhain cleifion i gael darlun cynhwysfawr o'r effaith y mae COVID-19 wedi'i gael ar ganlyniadau iechyd tymor hir ar draws y Deyrnas Unedig.

Bydd y tîm PHOSP-COVID yn datblygu treialon o strategaethau newydd ar gyfer gofal clinigol, yn cynnwys triniaethau personol i grwpiau o gleifion ar sail y nodweddion clefyd penodol y maent yn ei ddangos o ganlyniad i gael COVID-19 i wella eu hiechyd tymor hir.  Mae ein hymchwilwyr a'n clinigwyr yn cydweithio i ddeall a gwella canlyniadau iechyd tymor hir i gleifion sydd wedi bod yn yr ysbyty gyda chadarnhad o COVID-19 neu amheuaeth ohono.

Mae llawer o bwyslais  yn y gymuned ymchwil ar ymchwilio i effeithiau tymor hir COVID-19. Mae'r astudiaethau hyn yn cael eu blaenoriaethu fel astudiaethau iechyd cyhoeddus brys (UPH) ac felly'n cael eu blaenoriaethu ar gyfer recriwtio mewn Byrddau Iechyd ac Ymddiriedolaethau.  Mae'n debygol y bydd cyllid grant y dyfodol yn canolbwyntio ar ymchwilio i’r elfen hon o COVID-19.

Os hoffech gymryd rhan anfonwch e-bost at BCU.ResearchApplications@wales.nhs.uk