Hunangyfeirio yn achos COVID Hir Gorllewin

0%
  • Ydych chi'n 18 oed neu'n hŷn?
  • Oes gennych symptomau, sydd wedi para'n hirach na 12 wythnos yn dilyn haint COVID-19?
  • A yw'ch meddyg teulu wedi diystyru rhesymau eraill a allai fod yn achosi eich symptomau? Er enghraifft - profion gwaed, Pelydr-X o'r Frest ac ECG
Os oes gennych unrhyw rai o'r symptomau canlynol, sicrhewch eich bod wedi gweld eich meddyg teulu cyn cyfeirio eich hun at y Gwasanaeth COVID Hir

I gyfeirio eich hun, mae'n bwysig eich bod yn cwblhau POB rhan o'r ffurflen yn glir.  Bydd yr holl wybodaeth a roddwch yn parhau i fod yn gyfrinachol a chaiff ei chadw'n ddiogel yn unol â deddfwriaeth Diogelu Data a pholisïau a gweithdrefnau Llywodraethu Gwybodaeth y sefydliad. Trwy gwblhau'r cyfeiriad hwn, rydych yn cydsynio i'r Bwrdd Iechyd rannu gwybodaeth angenrheidiol a pherthnasol gyda'ch meddyg teulu neu weithwyr gofal iechyd proffesiynol priodol eraill.

Gallwch gyfeirio eich hun yn uniongyrchol bellach at Wasanaeth COVID Hir BIPBC

Mae symptomau COVID Hir yn cynnwys ond nid ydynt yn gyfyngedig i'r canlynol:
  • Gorflinder
  • Diffyg anadl
  • Problemau gyda'r cof a chanolbwyntio (meddwl pŵl)
  • Newidiadau i'r hwyliau (gofid neu iselder)
  • Poen yn y Frest
  • Crychguriadau’r Galon
  • Pendro
  • Poen
  • Tymheredd Uchel

Beth mae'r Gwasanaeth yn ei Gynnig?
  • Asesiadau Clinigol, Seicolegol a Chymdeithasol
  • Cyngor, cymorth ac ymyriadau i'ch helpu i reolwr eich symptomau
  • Mynediad at Ffisiotherapi, Therapi Galwedigaethol, Deieteg, Therapi Iaith a Lleferydd, Seicoleg
  • Cyfeirio at wasanaethau eraill, yn ôl yr angen