Neidio i'r prif gynnwy

Ap Adferiad COVID

Anogir pobl sy’n profi effeithiau tymor hir COVID-19 i lawr-lwytho ap adferiad COVID ap i olrhain eu symptomau a derbyn cefnogaeth ychwanegol. Mae aelod o staff o’r Bwrdd Iechyd wedi cyfrannu at yr ap cenedlaethol, mewn ymdrech i ddarparu mwy o gyngor a chefnogaeth i gleifion.

Mae’r ap dwyieithog, y cyntaf o’i fath, wedi cael ei ddatblygu gan grŵp iechyd resbiradol GIG Cymru ar ran Llywodraeth Cymru, ac fe’i cynlluniwyd i gynnig arf pwrpasol i bobl a ffordd bersonol i’w helpu ar eu taith at adferiad.

Mae’r ap, sy’n cynnwys dros 100 o fideos a dolenni at gyngor, yn galluogi defnyddwyr i gofnodi eu symptomau, olrhain eu cynnydd a dysgu sut i reoli eu cyflwr gartref gyda chefnogaeth.  Mae’n cynnwys cyngor gan therapyddion, seicolegwyr, dietegwyr ac ymgynghorwyr. 

Dysgwch fwy o wybodaeth am nodweddion ap Adferiad COVID a sut i'w lawr-lwytho.