Neidio i'r prif gynnwy

Rheoli Blinder

Mae llawer o bobl â COVID Hir yn cael trafferth gyda symptomau blinder. Gall hyn fod yn normal ar ôl bod yn sâl gyda firws neu haint ar yr ysgyfaint, ond pan fydd yn parhau am gyfnod hir gall gael effaith sylweddol ar ansawdd bywyd ac amharu ar eich gallu i gyflawni gweithgareddau pob dydd.

Mae teimlo'n nerfus, pryderus neu ofnus hefyd yn deimladau cyffredin sy'n gysylltiedig â diffyg anadl a blinder.

Beth allwch chi ei wneud i helpu'ch hun?

Wrth reoli eich lefelau egni, y peth pwysicaf i'w gofio yw peidio â gwneud gormod a chael eich llethu. Gall y technegau hyn helpu i reoli eich lefelau egni.

Blaenoriaethu: Gwnewch restr o'r pethau yr hoffech chi eu cyflawni yn ystod y dydd / wythnos. Rhestrwch nhw yn nhrefn eu pwysigrwydd i chi. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cynnwys ymolchi, gwisgo a bwyta gan fod y rhain i gyd yn defnyddio egni hefyd.

Wrth ystyried eich rhestr, gofynnwch i'ch hun:

  • Beth sydd angen ei wneud?
  • Beth sy'n bwysig imi ei wneud fy hun?
  • Allai ofyn i rywun arall helpu?
  • Pwy alla i ofyn am help ganddo?

Cynllun

Defnyddiwch gynlluniwr wythnos gyda slotiau amser yn ystod y dydd a thrwy’r wythnos i drefnu'r gweithgareddau hyn. Mae hi’r un mor bwysig gorffwys ac ymlacio. Mae hyn yn bwysig er mwyn osgoi gwneud gormod neu rhy ychydig. Gall cofnod gweithgaredd a gorffwys Covid Hir fod yn ddefnyddiol i ddynodi tueddiadau a phatrymau yn eich symptomau.

Cyflymder

Mae rhuthro i gwblhau tasgau fel y gallwch ddychwelyd i orffwys yn gwneud y sefyllfa’n waeth. Mae arafu a chymryd pwyll yn defnyddio llai o egni felly gallwch fod yn fwy egnïol am gyfnod hirach o amser. Mae hyn yn berthnasol wrth symud, siarad a bwyta.

Gwnewch eich gweithgareddau'n llai heriol

Mae gwneud gweithgareddau'n haws yn arbed egni tra’n cynnal annibyniaeth, er enghraifft aildrefnu'ch amgylchedd fel bod eitemau o fewn cyrraedd hwylus, rhwng uchder yr ysgwydd a'r glun, ac eistedd i lawr i gwblhau tasgau.

Gwybodaeth bellach

Mae canllawiau yn rhoi cyngor ar gynorthwyo pobl i reoli blinder yn dilyn firws a chadw eu hegni wrth iddynt wella ar ôl COVID-19 ar gael ar wefan Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol. Mae'r canllawiau hyn yn cael eu cymeradwyo gan y Gymdeithas Gofal Dwys. Ewch i https://www.rcot.co.uk/recovering-covid-19-post-viral-fatigue-and-conserving-energy