Neidio i'r prif gynnwy

Problemau Llais

Gall siarad fod yn anoddach os ydych yn fyr eich gwynt. Efallai y bydd eich llais yn swnio'n wan, yn dawel, yn arw neu'n gras. Efallai y bydd gennych ddolur gwddf os ydych wedi bod yn pesychu llawer. Rydych chi'n fwy tebygol o gael y problemau hyn os oedd angen tiwb anadlu arnoch yn yr ysbyty.

Mae anadlu yn bwysig iawn i'n galluogi i siarad mewn llais clir y gall eraill ei glywed a'i ddeall yn hawdd. Efallai y byddwch chi'n teimlo bod eich llais yn wan ac nad yw eich llais mor eglur ag yr arferai fod. Dylai hyn wella wrth i'ch symptomau wella.

Yn y cyfamser, gwnewch yn siŵr nad ydych chi'n sibrwd, gweiddi na straenio'ch llais ac yfwch ddigon o ddŵr i gadw'n hydradol.

Ceisiwch osgoi gormod o gaffein ac alcohol gan y bydd y rhain yn sychu eich llais. Efallai y bydd angen ichi ddweud llai o eiriau rhwng pob anadl.

Os bydd eich problemau llais barhau am nifer o wythnosau, cysylltwch â'ch meddyg teulu a all drefnu eich bod yn cael eu hasesu trwy’r Adran Clust, Trwyn a Gwddf a Therapydd Iaith a Lleferydd.

Os ydych chi'n cael trafferth cyfathrebu, gall y canlynol helpu:

  • Sicrhewch eich bod mewn amgylchedd tawel heb bethau i dynnu’ch sylw a lle nad oes sŵn cefndir.
  • Cael sgyrsiau pwysig pan fyddwch chi'n fwyaf effro, a chymryd egwyl rhwng sgyrsiau.
  • Cynlluniwch yr hyn rydych am ei ddweud, gwnewch nodyn o eiriau neu bynciau allweddol fel nad ydych chi'n anghofio.
  • Gall ailadrodd pethau yn ôl i chi eich hun helpu gyda'ch cof.
  • Cymerwch eich amser, peidiwch â phoeni os na allwch chi gofio enwau pethau - yn lle hynny disgrifiwch yr hyn oedd gennych mewn golwg, gan feddwl sut olwg sydd arno, beth rydych chi'n ei ddefnyddio ar ei gyfer, lle byddech chi'n dod o hyd iddo.