Neidio i'r prif gynnwy

Niwl Ymennydd

Mae niwl ymennydd yn symptom y mae llawer wedi ei brofi wrth gael COVID Hir. Mae symptomau’n cynnwys teimlo bod eu meddwl yn niwlog neu'n araf, a chael anhawster cofio pethau, newid yn eu gallu i ganolbwyntio, trafferth ffeindio geiriau, cur pen ac anhawster rheoli emosiynau. Nid yw achos y niwl ymennydd (brain fog) yn hysbys, ond mae sawl ffactor a all gyfrannu ato gan gynnwys blinder, prinder anadl neu anhwylderau patrwm anadlu, problemau niwrolegol a phoen. Yn benodol, gall blinder effeithio ar ein ffordd o feddwl, ac wrth wneud tasgau gwybyddol fel darllen, gweithio a siarad dylid cadw hynny mewn cof rhag cynllunio a threfnu gormod o weithgareddau.

Mae canllawiau yn rhoi cyngor ar gynorthwyo pobl i reoli blinder yn dilyn firws a chadw eu hegni wrth iddynt wella ar ôl COVID-19 ar gael ar wefan Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol. Mae'r canllawiau hyn yn cael eu cymeradwyo gan y Gymdeithas Gofal Dwys. Ewch i https://www.rcot.co.uk/recovering-covid-19-post-viral-fatigue-and-conserving-energy