Neidio i'r prif gynnwy

Lles Seicolegol

Gall COVID Hir gael effaith ar eich lles seicolegol. Gall effaith eich symptomau ar ansawdd eich bywyd arwain at hwyliau isel, rhwystredigaeth a phryder. Efallai eich bod wedi cael eich gwahanu oddi wrth eich anwyliaid tra'ch bod chi neu nhw yn yr ysbyty, wedi drysu ynghylch ble roeddech chi, yn anymwybodol tra'ch bod chi'n cael eich trin, ac mae’r holl ffactorau hyn yn gallu effeithio arnoch chi'n seicolegol.

Mae sawl ffordd wahanol o helpu eich hun i reoli'ch teimladau. Rydym wedi nodi rhai ffyrdd isod, ond mae pawb yn wahanol ac efallai y bydd gennych eich ffyrdd eich hun.

Teimlo'n bryderus

Gwyddom bod hwn yn gyfnod o ansicrwydd ac mae'n naturiol teimlo'n bryderus. Gall pryder amlygu ei hun mewn sawl ffordd yn gorfforol ac yn feddyliol, a gall hyn gynnwys crychguriadau (palpitations), tyndra yn y cyhyrau, problemau stumog, anadlu’n ormodol. gorfeddwl, cwsg gwael a llawer o symptomau eraill.

Mae pethau y gallwch eu gwneud i leihau pryder.

  • Nodwch beth sy'n sbarduno'ch pryder. Gofynnwch i'ch hun, “Am beth rydw i'n bryderus?" A oes unrhyw beth yn benodol yr ydych yn poeni amdano, er efallai na allwch bwyntio at un peth a'ch bod yn teimlo'n bryderus yn gyffredinol.
  • Heriwch eich meddyliau. Mae ein meddwl yn bwerus iawn ac rydym yn aml yn cyrraedd casgliadau heb unrhyw sail. Edrychwch ar y dystiolaeth am yr hyn rydych yn ei feddwl? Ai dyma'r unig senario posibl? A oes dewisiadau eraill? Efallai nad yw pethau cynddrwg ag y tybiwch.
  • Symudwch eich meddwl. Mae gwneud pethau sy'n tynnu eich sylw oddi wrth eich meddyliau yn llesol, a gall unrhyw beth lle byddwch chi'n colli trywydd amser fod yn dda.
  • Ymarfer Ymlacio ac Ymwybyddiaeth Ofalgar (Mindfulness) - dangoswyd bod ymlacio ac ymwybyddiaeth ofalgar yn lleihau pryder ac yn gwella rheolaeth dros hwyliau.

Chwiliwch am adnoddau ymwybyddiaeth ofalgar neu ymlacio ar wefan Mind.

Pyliau o banig

Os ydych chi'n teimlo'n bryderus bydd eich cyfradd anadlu’n cynyddu a gall hynny achosi pwl o banig. Mae pwl o banig yn deimlad llethol lle byddwch yn ystyried eich bod mewn perygl neu o dan straen aruthrol, fel rheol oherwydd rhyw sbardun (trigger).

Os ydym o dan straen, mae ein cyrff yn ymateb i amddiffyn rhag y perygl tybiedig. Ymateb 'ymladd, dianc, rhewi' (fight, flight, freeze) yw hwn pan fydd ein cyrff yn rhyddhau adrenalin. Fel arfer pan fydd pwl o banig yn digwydd, nid oes unrhyw berygl corfforol. Mae pawb yn profi pyliau o banig mewn ffyrdd gwahanol ond profiad cyffredin yw teimlo fel petaech yn cael trawiad ar y galon— er nad ydych chi. Er eu bod yn anghyfforddus iawn, mae'r symptomau'n ddiniwed a byddant yn pasio, ac mae rhai pethau y gallwch eu gwneud i helpu:

Cydnabod pwl o banig

Efallai y byddwch chi'n profi'r teimladau canlynol yn ystod pwl o banig: y galon yn curo, poenau yn y frest, newidiadau mewn patrwm anadlu, teimlo'n fyr eich gwynt, curo yn y pen, teimlo fel llewygu, ofn, teimlo'n bryderus, teimlo'n boeth, chwysu,  teimlo eich bod yn mygu, corddi yn eich stumog.

Sut i adennill rheolaeth ar ôl pwl o banig

  • Ymarfer anadlu dan reolaeth - anadlu i mewn trwy'ch trwyn ac allan trwy eich ceg
  • Eistedd i lawr ac aros i’r pwl basio. Gall rhai technegau tynnu sylw fel cyfrif neu sylwi ar synau neu liwiau fod yn ddefnyddiol.

Dyma dasg i roi cynnig arni:

Ymarfer Anadlu 3 Munud

  1. Eisteddwch yn dawel, caewch eich llygaid a chanolbwyntiwch eich sylw at eich anadlu.
  2. Dewch yn ymwybodol o bob anadl i mewn a phob anadl allan.
  3. Sylwch ar sut mae'r aer yn teimlo wrth iddo fynd i mewn i'ch ffroenau, llenwi'ch ysgyfaint a gadael eto.
  4. Llenwch eich ysgyfaint yn araf, o'r gwaelod i'r top, gan anadlu i mewn fel petai pob cell yn eich corff yn anadlu.
  5. Anadlwch i mewn nes na allwch anadlu i mewn mwy, ac yna anadlu allan yn dawel.
  6. Os yw'ch sylw'n crwydro, dewch ag ef yn ôl yn raddol. Canolbwyntiwch ar eich anadlu… .canolbwyntiwch ar y teimlad corfforol o anadlu.
  7. Rhowch sylw i'ch corff, unrhyw deimladau rydych chi'n sylwi arnyn nhw a synau yn yr ystafell.
  8. Parhewch i wneud hyn am 3 munud
  9. Pan fyddwch chi'n teimlo'n barod, agorwch eich llygaid yn araf, ymstynwch eich corff a chario mlaen â'ch diwrnod.

Hwyliau Isel

Bydd y rhan fwyaf o bobl yn dioddef o hwyliau isel ar wahanol adegau yn eu bywyd, a all fod o ganlyniad i ddigwyddiad neu bethau nad ydynt yn mynd fel y gobeithiwyd gennym. Mae'r teimladau hyn fel arfer yn mynd o fewn pythefnos er y gall y cyfnod hwn fod yn hirach wedi ichi brofi digwyddiad trawmatig neu fod yn sâl. Mae hwyliau isel (low mood) ac iselder ysbryd (depression) yn wahanol. Gall teimladau o hwyliau isel ddatblygu'n iselder os na roddir sylw iddynt.

Amcangyfrifir y bydd 1 o bob 6 o oedolion yn y Deyrnas Unedig wedi profi anhwylder iechyd meddwl cyffredin megis pryder ac iselder yn ystod yr wythnos ddiwethaf ac mae'r ffigwr hwn yn debygol o fod yn uwch yn wyneb y pandemig / yn dilyn salwch difrifol.

Gall therapïau siarad fel Therapi Ymddygiad Gwybyddol (Cognitive Behaviour Therapy - CBT) fod yn ddefnyddiol iawn ar gyfer iselder a phryder ac mae nifer o asiantaethau y gallwch fynd atynt yn uniongyrchol i gael help, fel MIND.

Yng Ngogledd Cymru mae gwasanaeth o'r enw Parabl sy'n cynnig amryw o opsiynau ar gyfer rhoi cymorth a chefnogaeth.

Bydd eich meddyg teulu hefyd yn gallu eich cyfeirio at therapydd proffesiynol neu gwnselydd. Gall hefyd drafod opsiynau ar gyfer meddyginiaeth a allai fod o gymorth tra bod eich hwyliau'n isel.

Mae gan rai unedau Gofal Critigol (Gofal Dwys) Seicolegydd Clinigol pwrpasol yn gweithio gyda nhw. Gofynnwch i'ch tîm ysbyty a oes Seicolegydd Clinigol ar gael i'ch cefnogi ar ôl cael eich rhyddhau os yw'r symptomau'n parhau.

Mae Therapïau Siarad Parabl yn darparu ymyriadau therapiwtig tymor byr i unigolion sy'n wynebu anawsterau iechyd meddwl cyffredin neu'n ddigwyddiadau bywyd heriol a allai fod yn effeithio ar eu lles emosiynol.

Cysylltwch â Parabl i drefnu asesiad ffôn ar 0300 777 2257

Neu ewch i wefan Parabl http://www.parabl.org.uk/ 

Ymlacio

  • Mae defnyddio technegau anadlu i ymlacio ac anadlu dan arweiniad yn rhoi hwb i'ch system imiwnedd, yn lleihau eich pwysedd gwaed ac yn cynyddu eich lefelau egni.

Cofiwch roi amser i ymlacio ac ymarfer technegau anadlu fel rhan o reoli blinder. Gellir dod o hyd i adnoddau defnyddiol yma:

Adnoddau gwefan defnyddiol eraill ar gyfer gwella hwyliau ac ymlacio