Neidio i'r prif gynnwy

Gweithgaredd Corfforol ac Ymarfer Corff

Mae gweithgaredd corfforol yn wahanol i ymarfer corff. Gweithgaredd corfforol (physical activity) yw unrhyw symudiad yn y cyhyrau sy'n defnyddio egni. Mae ymarfer corff (exercise) yn gynlluniedig, yn strwythuredig ac yn fwriadol, gyda'r nod o wella cryfder neu ffitrwydd cardiofasgwlaidd. Mae ymarfer corff graddedig yn aml yn cael ei ragnodi gan weithwyr proffesiynol ymarfer corff yn dilyn cyfnod o salwch a all fod wedi arwain at wendid neu ddiffyg yng nghyflwr y cyhyrau. Nod ymarfer corff wedi'i raddio yw gwella cryfder a ffitrwydd cyhyrau. Gall hefyd helpu i wella lles ac ansawdd bywyd.

Mae rhai cleifion yn dioddef o wendid yn y cyhyrau fwy na 12 wythnos wedi cael COVID-19 ac angen rhaglen ymarfer corff o’r math yma, yn enwedig y rhai sydd wedi bod yn yr ysbyty gyda'r haint.

Mae’n bwysig nodi fod mwyafrif y cleifion a gaiff COVID hir yn profi symptomau tebyg i Syndrom Blinder Cronig (Chronic Fatigue Syndrome). I rai cleifion, mae'r symptomau'n gwaethygu yn ystod gweithgaredd corfforol neu ymarfer corff, ac yn y dyddiau yn dilyn hynny. Mae hyn yn cael alw’n flinder ôl ymdrech (post exertional fatigue). Os yw unigolyn yn cael symptomau fel hyn, ni argymhellir ymarfer graddedig. Yn hytrach, mae’n bwysig dros ben peidio gorwneud pethau i osgoi cael eich llethu trwy 'wneud gormod' heddiw a methu gwneud unrhyw beth yfory oherwydd eich bod wedi ymlâdd.

Argymhellir felly eich bod yn cael eich sgrinio gan weithiwr iechyd proffesiynol â chymwysterau addas os oes gennych COVID hir i sicrhau bod unrhyw bresgripsiwn ymarfer corff a fwriedir yn ddiogel.

Beth allwch chi ei wneud i helpu'ch hun?

Mae cynyddu’n raddol / gwasgaru gweithgareddau yn strategaeth a ddefnyddir i reoli symptomau blinder ar ôl ymarfer ac osgoi gwaethygu'ch symptomau. Dylid osgoi ei gorwneud hi wrth wneud gweithgareddau i’ch helpu i gadw eich egni er mwyn gallu cymryd rhan mewn gweithgareddau ystyrlon.

Efallai y bydd yr adnoddau canlynol yn eich helpu chi i ddysgu sut i gynyddu faint o weithgareddau a wnewch yn effeithiol