Neidio i'r prif gynnwy

Diffyg anadl

Mae diffyg anadl yn ymateb arferol i fod yn egnïol, ond mae hefyd yn arferol profi rhywfaint o ddiffyg anadl wrth wneud tasgau symlach ar ôl cael haint ar yr ysgyfaint fel Covid-19. Mae'n bwysig nad ydych chi'n osgoi'n llwyr y pethau sy'n eich gwneud chi'n fyr eich gwynt, ond dylech ystyried faint yn fyr o anadl yr ydych wrth benderfynu ar faint o weithgaredd rydych chi'n ei wneud.

Sut i fesur diffyg anadl

Efallai y byddai'n ddefnyddiol cadw dyddiadur gweithgaredd i helpu i nodi pa weithgareddau sy'n eich gwneud chi'n fyr eich gwynt, ac i ba raddau. Gall graddfa diffyg anadl Borg eich helpu i fesur eich diffyg anadl:

0 - dim diffyg anadl o gwbl, 0.5 ychydig iawn (prin yn sylwi), 1 - diffyg anadl bach iawn, 2 - diffyg anadl bach, 3 - diffyg anadl cymedrol, 4 - diffyg anadl eithaf difrifol, 5 - diffyg anadl difrifol, 6, 7 - diffyg anadl difrifol iawn, 8, 9 - difrifol iawn, iawn (bron i'r eithaf), 10 - diffyg anadl i'r eithaf

Awgrymiadau ar gyfer Rheoli Diffyg Anadl

Osgo (Positioning)

Eisteddwch yn pwyso ymlaen, gyda'ch penelinoedd yn gorffwys ar eich pengliniau, neu ar fwrdd. Gallech hefyd bwyso ymlaen ar silff ffenestr neu arwyneb gwaith os ydych chi'n sefyll. Sefwch yn pwyso’n ôl gyda’ch cefn ar wal, gan adael i'ch breichiau a'ch dwylo ymlacio. Defnyddiwch y dechneg anadlu gwefusau wedi eu pinshio (pursed lip breathing technique) a ddisgrifir isod er mwyn eich helpu i adfer eich anadl.

Rheoli anadlu

Gosodwch eich hun mewn safle cyfforddus lle gallwch ymlacio. Anadlwch i mewn yn ysgafn, yn ddelfrydol trwy'ch trwyn, neu fel arall trwy'ch ceg. Cadwch y ffocws ar eich anadl 'allan'. Yn raddol, gwnewch eich anadl 'allan' yn hirach na'ch anadl 'mewn'

Os byddwch chi'n dechrau teimlo'n ddifrifol o fyr eich gwynt ac nad yw'n gwella gyda'r osgo neu'r technegau hyn, cysylltwch â'ch meddyg teulu i ofyn am gyngor meddygol, neu mewn argyfwng ffoniwch 999.