Neidio i'r prif gynnwy

Cwsg

Ar ôl cyfnod o salwch, neu os oes gennych COVID Hir, efallai y byddwch chi'n teimlo'n flinedig yn aml, neu'n methu â chysgu'n iawn. Dywed llawer o bobl â COVID hir fod ansawdd eu cwsg yn wael.

Efallai y byddwch hefyd yn profi breuddwydion neu hunllefau dwys sy'n teimlo'n real iawn. Mae'n bwysig iawn cael cwsg rheolaidd er mwyn cadw'ch corff a'ch meddwl yn iach.

Er y gall gymryd peth amser i fynd yn ôl i drefn cysgu arferol, gall y strategaethau canlynol fod yn ddefnyddiol:

  • Ceisiwch ddilyn trefn gysgu reolaidd ac ewch i'r gwely ar yr un pryd a deffro ar yr un amser bob dydd.
  • Osgowch gaffein yn hwyr yn y dydd ac yn lle hynny rhoi cynnig ar yfed diod llaethog cyn mynd i'r gwely.
  • Ymlaciwch trwy gael bath neu gawod os yn bosibl.
  • Efallai y bydd gwrando ar y radio neu ddarllen llyfr, ac osgoi sgriniau fel eich ffôn neu deledu am awr cyn mynd i'r gwely yn help.

Mae gwefan  NHS UK yn cynnwys gwybodaeth am arferion cwsg da a allai fod yn ddefnyddiol i chi.