Neidio i'r prif gynnwy

Camweithrediad Awtonomig (Autonomic Dysfunction)

Mae'r system nerfol awtonomig yn gyfrifol am reoli swyddogaethau awtomatig neu anwirfoddol y corff gan gynnwys cyfradd curiad eich calon, eich pwysedd gwaed, eich anadlu a thymheredd y corff. Mae ‘camweithrediad awtonomig’ yn derm ymbarél sy'n cyfeirio at broblem gyda'r system nerfol awtonomig. Weithiau gall COVID hir achosi i'r system hon weithredu'n anarferol, a all arwain at symptomau sy’n cynnwys:

  • blinder
  • penysgafndod
  • pendro
  • problemau cydbwysedd
  • meigryn
  • gwendid
  • prinder anadl
  • chwysu
  • nam gwybyddol 

Os ydych chi'n poeni y gallai fod gennych arwyddion neu symptomau ‘camweithrediad awtonomig’, dylech gael sylw meddygol yn gyntaf. 

Mae Syndrom Tachycardia Orthostatig Osgo (Postural Orthostatic Tachycardia Syndrome PoTS) yn arwain at gynnydd annormal yng nghyfradd y galon ar ôl eistedd neu sefyll, gan achosi pendro neu lewygu. Gall gael ei sbarduno gan heintiau firws neu facteria, ond mae angen sawl prawf meddygol er mwyn cadarnhau diagnosis. Beth mae hyn yn ei olygu?. Byddwch yn wyliadwrus o wybodaeth a welwch ar-lein neu’r cyfryngau cymdeithasol, gan nad yw cael y symptomau hyn bob amser yn golygu bod gennych PoTS.

Beth alla i ei wneud i reoli hyn?

Mae addasiadau i’n ffordd o fyw yn gallu helpu i reoli symptomau camweithrediad awtonomig. Fodd bynnag, mae'n bwysig iawn eich bod chi'n siarad â'ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol cyn ystyried unrhyw newidiadau.