Neidio i'r prif gynnwy

Bwyta ac Yfed

Mae bwyta ac yfed yn weithgareddau cymhleth sy'n cynnwys llawer o wahanol nerfau a chyhyrau. Mae ein rheolaeth o’n hanadl hefyd yn bwysig iawn. I gadw’n iach mae'n bwysig yfed digon o hylifau a chael diet sy'n cynnwys digon o faetholion. Mae maeth da yn bwysig ar gyfer gwella o salwch.

Os ydych chi wedi cael diagnosis o COVID-19 yn ddiweddar, efallai y cewch drafferth gyda bwyta ac yfed oherwydd:

  • Blinder a gwendid cyffredinol a all effeithio'n fawr ar eich gallu i gnoi a llyncu a'ch gallu i fwyta.
  • Gall treulio amser yn yr Uned Gofal Dwys (ITU) a chael tiwb anadlu / awyru i'ch helpu i anadlu arwain at chwydd a theimlad anghysurus yn eich gwddf a allai effeithio ar eich gallu i fwyta ac yfed yn normal. Efallai y byddwch hefyd wedi cael tiwb bwydo os cawsoch eich rhoi ar beiriant anadlu (ventilator).
  • Cyhyrau llyncu gwan - Pan fyddwn yn bwyta ac yn yfed, rydym yn defnyddio llawer o nerfau a chyhyrau a all fynd yn wannach dros amser os nad ydynt yn cael eu defnyddio. Os nad ydych yn bwyta ac yfed am gyfnod hir yn yr ysbyty, efallai y bydd eich cyhyrau llyncu wedi gwanhau.
  • Llai o archwaeth – Gall hyn gael ei achosi gan effeithiau corfforol neu seicolegol coronafirws. Er enghraifft, gall newidiadau mewn lefelau pryder, blas ac arogl, anawsterau llyncu a thrafferthion gastroberfeddol fel taflu fyny, dolur rhydd a rhwymedd arwain at lai o archwaeth bwyd. Gall llai o archwaeth arwain at golli pwysau a lleihau màs cyhyrau.

Ceir peth arweiniad ar gynlluniau diet, ee diet histamin isel i reoli symptomau COVID Hir. Ar hyn o bryd, nid oes tystiolaeth ddigonol i gefnogi'r cyngor hwn. Mae'n bwysig nodi bod y dietau hyn yn gyfyngol iawn, a gallent o bosibl arwain at ddiffygion maethol, gan wneud eich symptomau'n waeth. Argymhellir dilyn diet cytbwys, gydag amrywiaeth o fwydydd o bob un o'r prif grwpiau bwyd fel y dangosir gan y Canllaw Bwyta’n Dda (Eatwell) https://gov.wales/sites/default/files/publications/2019-02/eatwell-guide.pdf  Dylid dilyn unrhyw ddiet cyfyngol o dan oruchwyliaeth Dietegydd cofrestredig yn unig.

Bwyta ac yfed tra yn yr ysbyty

Os ydych wedi bod yn yr ysbyty, dylech fod wedi bod:

  • Yn cael eich pwyso'n rheolaidd
  • Yn cael cynnig prydau bwyd a byrbrydau rheolaidd
  • Yn cael cynnig diodydd maethlon rheolaidd gan gynnwys atchwanegiadau maethol rhagnodedig

Os nad oeddech yn gallu bwyta yn yr ysbyty am ba bynnag reswm (ee os nad oeddech yn cael bwyta nac yfed trwy’r geg (nil by mouth) neu fod angen tiwb anadlu arnoch) efallai eich bod wedi cael tiwb bwydo yn lle.

Efallai eich bod wedi cael eich cyfeirio at Ddietegydd os oedd pryderon maethol tra'ch bod yn yr ysbyty.

Os oedd pryderon llyncu tra roeddech chi yn yr ysbyty efallai y byddech hefyd wedi cael eich cyfeirio at Therapydd Iaith a Lleferydd.

Os cawsoch eich asesu gan Therapydd Iaith a Lleferydd yn ystod eich cyfnod yn yr ysbyty efallai eich bod wedi cael cyngor ar sut i wneud bwyta ac yfed yn haws, fel cael bwydydd meddalach neu dewychu’ch diodydd. Os oedd angen, efallai eich bod wedi cael rhaglen o ymarferion i helpu i gryfhau'ch llwnc.

Ar fin cael eich rhyddhau adref?

Pan ewch adref, gall gymryd peth amser i'ch archwaeth a’r hyn a gallwch ei fwyta trwy'r geg ddychwelyd i normal. Os oedd gennych broblemau llyncu yn yr ysbyty, efallai y bydd gennych broblemau llyncu wedi mynd adref hefyd.

Dylech gael eich rhyddhau adref gyda:-

  • Cyflenwad pythefnos o atchwanegiadau maeth.
  • Pecyn Maeth Rhyddhau o’r Ysbyty (ar wahân i'r llyfryn hwn).

Dylai'r pecyn maeth rhyddhau o’r ysbyty ganiatáu ichi barhau i gynyddu eich cymeriant maethol (nutritional intake) gartref yn annibynnol neu gyda chefnogaeth eich teulu / gofalwyr.

Os oes gennych / eich bod wedi datblygu lefelau potasiwm uchel, ffosffad uchel neu os oes gennych glefyd cronig yr arennau cam 4 neu 5, efallai na fyddwch wedi derbyn y pecyn maeth rhyddhau o’r ysbyty hwn ond dylech fod wedi cael cyngor unigol gan Ddietegydd yn lle.

  • Cyflenwad o dewychwyr os oes angen hylifau tew arnoch wrth gael eich rhyddhau o’r ysbyty.

Bwyta ac yfed gartref

Mae'r pecyn maeth rhyddhau o’r ysbyty yn cynnwys amrywiaeth o adnoddau i helpu gydag adferiad maethol gartref ar ôl cael diagnosis o coronafirws. Mae'r pecyn hwn yn cynnwys:

  • Rhestr wirio Maeth- i ganiatáu i chi i asesu eich risgiau ddiffyg maeth eich hun
  • “Cryfhau’ch hun”- llyfryn sy'n canolbwyntio ar ddulliau’n canolbwyntio ar fwyd yn gyntaf i allu cryfhau’n gynt

cymeriant maethol

  • Syniadau sylfaenol ar gyfer eich cwpwrdd storio bwyd
  • Llyfrynnau cymorth a thaflenni ychwanegol yn eich ardal leol
  • Bwyta'n dda”- Awgrymiadau ar gyfer monitro'ch pwysau ac awgrymiadau ar gyfer diet iach a chytbwys 
  • “Gwella'ch maeth” - Awgrymiadau ar gyfer monitro'ch cynnydd ac awgrymiadau ar gyfer bwyta pan fyddwch yn brin o anadl, pan fydd eich ceg yn sych / ddolurus neu wedi cael newidiadau blas / arogl.
  • “Cymorth Maeth’- Awgrymiadau ynghylch cymryd atchwanegiadau maethol trwy'r geg

Os oes gennych lai o archwaeth bwyd neu os ydych yn teimlo’n isel eich hwyliau:

  • Ceisiwch fwyta gyda phobl eraill yn eich cartref os yw hwn yn opsiwn
  • Meddyliwch sut mae'r bwyd yn cael ei gyflwyno, er enghraifft a oes gennych chi hoff blât neu gwpan?
  • Dewiswch brydau bwyd yn seiliedig ar yr hyn rydych chi'n teimlo fel ei fwyta'r diwrnod hwnnw.

Gofalwch am eich ceg

Mae hyn yn bwysig iawn os ydych chi'n cael anhawster bwyta ac yfed a hefyd os ydych chi wedi cael unrhyw help gyda'ch anadlu yn yr ysbyty. Gall defnyddio masgiau a thiwbiau anadlu beri i'ch ceg fynd yn sych iawn, a hynny wedyn yn annog mwy o facteria i ddatblygu.

Mae gofal ceg rheolaidd yn bwysig i helpu i atal heintiau a sychder.

Beth arall allwch chi ei wneud?

  • Gofynnwch i ffrindiau ac aelodau o'r teulu helpu gyda pharatoi prydau bwyd.
  • Gwnewch yn siŵr na fyddwch yn cael eich styrbio pan fyddwch yn bwyta ac yn yfed.
  • Os ydych chi'n gwisgo dannedd gosod fel arfer, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n eu gwisgo wrth fwyta ac yfed a sicrhau eu bod yn sefydlog os oes angen.
  • Wrth fwyta ac yfed, mae osgo yn bwysig iawn. Eisteddwch mewn cadair sy'n cynnal eich cefn, fel eich bod mewn safle unionsyth gyda'ch traed ar y llawr neu wedi eu cefnogi ar wyneb gwastad. Eisteddwch yn wynebu ymlaen gyda'ch gên yn wastad neu ychydig i lawr. Peidiwch â phlygu eich pen am yn ôl gan fod hyn yn ei gwneud hi'n fwy tebygol y bydd diodydd yn mynd i lawr y ffordd anghywir. Os na allwch eistedd mewn cadair, gwnewch yn siŵr eich bod mor unionsyth â phosibl ac yn gyffyrddus.
  • Pan fyddwch chi'n bwyta ac yn yfed, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n clirio pob llond ceg cyn cymryd un arall.
  • Os ydych chi'n blino'n hawdd wrth fwyta ac yfed, dewiswch fwydydd sy'n wlyb ac yn hawdd eu cnoi (gweler y tabl dros y dudalen am enghreifftiau).

Prydau bwyd

Syniadau bwyd

 

Brecwast

Ceirch / Uwd ‘ar unwaith’ (Instant)

Bisgedi gwenith wedi'u socian mewn llefrith

Pryd cinio / min nos

Pastai bwthyn

Pysgod wedi'u stemio mewn saws neu bastai bysgod

Caws Macaroni

Wyau ar ffurf omelet neu wedi'u sgramblo

Tatws trwy’u crwyn (heb y croen)

Caserol cig tendr neu hash cig eidion

Pasta wedi'i goginio'n feddal iawn gyda saws / lasagne

Llysiau wedi'u coginio'n dda ee blodfresych gyda chaws, maip, rwdan.

Syniadau pwdin

Iogwrt llyfn

‘instant whip’ neu Mouse parod

Crème Caramel

Pwdin sbwng gyda hufen / cwstard

Bananas
Eirin gwlanog neu fricyll heb groen neu gellyg
Afalau wedi'u stiwio

 

Mae rhai bwydydd yn arbennig o anodd eu llyncu ac efallai y byddai'n well eu hosgoi os ydych chi'n ei chael hi'n anoddach bwyta, mae'r rhain yn cynnwys:

  • Bwydydd gyda llinynnau ffibrog - pîn-afal, ffa dringo, seleri, orennau, letys
  • Bwydydd crensiog - tost, creision, crwst fflachlyd, sglodion creisionllyd, cytew.
  • Bwydydd briwsionllyd - bisgedi, crymbl, craceri
  • Ansawdd cymysg sy'n gwahanu e.e. creision yd gyda llefrith, cawl tenau gyda lympiau ynddo
  • Bwydydd caled neu fwyd sydd angen llawer o gnoi ee cnau, hadau, da da sydd angen ei gnoi, da da caled wedi'u berwi, bara crystiog. 
  • Bwydydd gyda hysgiau ee india-corn, ffa.

Cofiwch eich bod chi'n defnyddio'r un cyhyrau ar gyfer bwyta ac yfed ag yr ydych chi ar gyfer lleferydd a llais. Efallai y byddwch chi'n blino'n hawdd os ydych chi'n siarad llawer cyn bwyta (a bwyta cyn siarad hefyd).

  • Os ydych chi'n teimlo bod pethau'n glynu yn eich gwddf, llyncwch eto heb roi unrhyw beth newydd yn eich ceg.
  • Os yw eich llais yn swnio ychydig yn gryg neu'n wlyb ar ôl llyncu, pesychwch i glirio ac yna llyncu.
  • Peidiwch â gorwedd yn syth ar ôl bwyta neu yfed, oherwydd gall hyn achosi peswch os oes unrhyw ddarnau o fwyd neu hylif yn dal yn y gwddf. Ceisiwch aros mewn safle unionsyth (upright) am o leiaf 20 munud ar ôl bwyta neu yfed.

Angen cefnogaeth barhaus?

  • Os ydych chi'n poeni am lai o archwaeth / bwyta trwy'r geg neu os yw'ch pwysau'n lleihau gartref, cysylltwch â'ch meddyg teulu a gofynnwch iddyn nhw eich cyfeirio at ein gwasanaeth Dieteg.
  • Efallai bod Therapydd Iaith a Lleferydd wedi siarad â chi ynghylch  a ydych angen cymorth pellach gan yr adran os ydych wedi bod yn yr ysbyty. Cysylltwch â'ch meddyg teulu os oes gennych unrhyw bryderon newydd neu anawsterau parhaus gyda'ch llyncu. Efallai y bydd eich meddyg teulu yn eich cyfeirio at Therapi Iaith a Lleferydd i gael cyngor neu asesiad.

Cysylltwch â'ch meddyg teulu ar frys os byddwch chi'n sylwi ar unrhyw un o'r symptomau canlynol:

  • Pesychu neu dagu amser bwyd neu wrth yfed.
  • Newid yn eich patrwm anadlu ar ôl bwyta neu yfed.
  • Poen neu deimlad anghysurus wrth lyncu.
  • Heintiau cyson ar y frest.
  • Bwyd yn mynd yn sownd yn y gwddf