Neidio i'r prif gynnwy

Anhwylderau Patrwm Anadlu

Pan fyddwch wedi bod yn sâl gyda haint fel COVID 19, gall eich patrwm anadlu newid mewn ymateb i'r haint. Efallai y byddwch chi'n teimlo'n fyr eich gwynt neu'n cael poen sy'n effeithio ar eich anadlu. Efallai y byddwch chi'n anadlu'n ddyfnach neu'n gyflymach na'r arfer. Er y dylai eich anadlu ddychwelyd i normal wrth ichi wella o salwch neu haint, i rai pobl, mae'r newidiadau hyn yn dod yn arferol, gan eich gadael â phatrwm anadlu annormal. Gall hyn achosi blinder, poen yn y frest, crychguriadau (palpitations), cur pen, a thyndra neu wayw yn eich cyhyrau.

Gall ail sefydlu eich patrwm anadlu gymryd amser ac mae'n ofynnol i chi fod yn ymwybodol o'ch anadlu. Mae'r dolenni isod yn darparu cyngor defnyddiol i wirio'ch patrwm anadlu eich hun, ynghyd ag ymarferion i ymarfer techneg 'anadlu da'.