Neidio i'r prif gynnwy

Gwybodaeth i Rhieni a Gofalwyr

Rydym yn byw mewn cyfnod anodd ac ansicr, ac mae hyn wedi golygu fod llawer ohonom yn teimlo wedi ein llethu ac o dan straen. Mae'n gyfnod pryderus i lawer o rieni a gofalwyr sy'n poeni am effaith y pandemig ar les emosiynol eu plant. Fodd bynnag, mae ffyrdd y gallwn gefnogi ein plant a'n pobl ifanc i roi'r cyfloedd gorau iddynt aros yn iach yn feddyliol yn ystod y cyfnod anodd hwn. Bydd y wybodaeth isod yn eich helpu i gefnogi'ch plentyn ac i wybod sut i gael gafael ar gymorth.

26/11/20
Beth ddylwn i ei wneud os bydd fy mhlentyn yn dweud wrthyf ei fod yn cael trafferth?

Diolch iddynt am rannu'r hyn sy'n digwydd gyda chi, a’u hannog trwy egluro fod bod yn agored a gonest yn beth cadarnhaol iawn, gan gydnabod sut y maent yn teimlo.

Gadewch iddynt wybod eich bod yn eu caru, eich bod yno i'w cefnogi a'u bod yn gallu siarad â chi, eich bod yn gwrando ac yn barod i helpu a gwrando mwy pan fyddant eich angen.

Gofynnwch iddynt a oes unrhyw beth y gallwch ei wneud i helpu neu unrhyw beth y mae unrhyw un arall yn gallu ei wneud i helpu.

Treuliwch amser gyda'ch gilydd yn meddwl am yr hyn sy'n gwneud iddyn nhw deimlo fel hyn. Trafodwch a oes unrhyw newidiadau a allai fod wedi gwneud iddynt deimlo fel hyn a meddyliwch am y pethau y gallwch eu gwneud i helpu.

Rhowch wybod i'ch plentyn am y llinellau cymorth, y llinellau tecstio a'r gwasanaethau sgwrsio ar-lein sydd ar gael os oes angen iddynt siarad â rhywun y tu allan i'r teulu. Gallwch ddod o hyd i restr o'r rhain uchod yn yr Adran Plant a Phobl Ifanc – Cwestiwn 3.

Os credwch fod angen cefnogaeth broffesiynol ar eich plentyn i deimlo'n well gallwch siarad ag ysgol neu feddyg teulu eich plentyn, a fydd yn gallu eich cynghori ar sut i gael mynediad at wasanaethau iechyd meddwl. Gyda'ch gilydd gallwch drafod a oes angen atgyfeirio at Wasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc CAMHS, asesiad gan arbenigwr iechyd meddwl, neu atgyfeiriad am fath arall o gefnogaeth. Gallwch siarad â'ch meddyg teulu, ysgol neu ganolfan blant leol gyda'ch plentyn neu hebddo.

Os oes angen cefnogaeth emosiynol ar eich plentyn a help i wneud synnwyr o'u teimladau, gallent elwa o weld cwnselydd neu therapydd. Efallai y gallwch gael cymorth o’r fath am ddim trwy eich meddyg teulu neu ysgol eich plentyn. Os yw'n opsiwn fforddiadwy, gallwch hefyd ystyried cynghorydd plant preifat. I ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gael gwasanaethau cwnsela, cysylltwch â'ch Tîm CAMHS lleol.

26/11/20
Sut mae siarad â'm plentyn am ei iechyd meddwl?

Gall cychwyn sgwrs fod yn anodd, yn enwedig os ydych chi'n poeni am eich plentyn a'r hyn y gallai fod yn ei deimlo. Y peth pwysicaf yw eich bod yn rhoi amser i siarad â'ch plentyn os ydyw yn dymuno. ‘Dio ddim llawer o ots beth yw’r pwnc a’r sgwrs i ddechrau - mae'n ymwneud â’r cyfle a gewch eich dau i siarad am deimladau a rhoi cysur i’ch gilydd.

Dyma ychydig o ffyrdd i gychwyn sgwrs:

  • Sut wyt ti'n teimlo?
  • Am beth wyt ti eisiau siarad?
  • Beth oedd darn gorau a gwaethaf dy ddiwrnod?
  • Pe gallet ddechrau heddiw eto, beth fyddet ti’n ei wneud yn wahanol? 
  • Beth wnes ti heddiw wyt ti’n fwyaf balch ohono?

Mae llawer o rieni yn ei chael yn ddefnyddiol dechrau sgwrs trwy ddewis pwnc y maent yn gwybod y byddai gan eu plentyn ddiddordeb ynddo. Efallai mai cân newydd sy'n sôn am emosiynau fydd y sbardun, neu gylchgrawn ag erthygl ddiddorol ynddo, ffilm y gwnaethoch chi wylio gyda'ch gilydd yn ddiweddar, neu stori mewn opera sebon ar y teledu. Mae hyn yn rhoi llai o ffocws ar y plentyn ac yn aml yn arwain at sgyrsiau naturiol am deimladau. Fel y soniwyd uchod, weithiau gall gwneud gweithgaredd hwyliog gyda'ch gilydd helpu hefyd am ei fod yn darparu amgylchedd hamddenol a chyffyrddus i ddechrau'r sgwrs.

26/11/20
Sut alla'i gefnogi fy mhlentyn?

Byddwch yno i wrando

Mae'n bwysig gofyn i'ch plentyn yn rheolaidd sut maen nhw’n teimlo, fel eu bod nhw'n dod i arfer siarad am eu teimladau ac yn gwybod bod rhywun ar gael i wrando bob amser os ydyn nhw eisiau siarad. Gall creu awyrgylch hwyliog helpu gyda hyn, ac mae rhai rhieni'n canfod yn ystod gweithgareddau difyr y gall eu plant fod yn fwy agored am sut maen nhw'n teimlo. Gall hyn gynnwys pobi, celf a chrefft, chwaraeon, gemau bwrdd, darllen straeon a siarad amdanynt wedyn.

Y peth pwysig yw ceisio gwrando ar eich plentyn a rhoi eich amser iddo ef / iddi hi heb unrhyw bethau yn tynnu eich sylw. Mae talu sylw i’w hemosiynau a'u hymddygiad yn eich helpu i nodi newidiadau pwysig a deall eu hanghenion yn well.

Parhewch i fod yn rhan o'u bywyd
Mae hyder llawer o blant a phobl ifanc yn cynyddu wrth deimlo eu bod yn cael cefnogaeth a phan fydd rhiant yn dangos diddordeb ymarferol yn eu bywyd a'r pethau sy'n bwysig iddyn nhw. Mae hyn nid yn unig yn eu helpu i werthfawrogi pwy ydyn nhw ond hefyd yn ei gwneud hi'n haws ichi sylwi ar broblemau a'u cefnogi.

 

Anogwch eu diddordebau
Cefnogwch eich plentyn i gadw'n heini, dysgu sgiliau newydd a chael cyswllt â'u cymuned a ffrindiau. Mae hyn yn un o’r ffyrdd gorau i gadw iechyd emosiynol eich plentyn ar y trywydd iawn. Wrth inni dreulio mwy o amser gartref gyda'n gilydd mae'n gyfle gwych i siarad â'ch plentyn am ei ddiddordebau a'r hyn y mae'n ei fwynhau, a gallwch wedyn feddwl am ffyrdd i'w gefnogi yn y diddordebau hynny. Yn aml iawn nid oes raid i'r pethau hyn gostio llawer o arian ac yn aml iawn bydd eich Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol yn gallu dweud wrthych beth sydd ar gael am ddim ac am bris rhesymol yn eich ardal chi. Bydd gan ysgolion, colegau a'ch awdurdod lleol syniadau da hefyd neu efallai y gallant gael gafael ar bethau a fydd yn cefnogi diddordebau eich plentyn.

 

Cymerwch yr hyn maen nhw'n ei ddweud o ddifrif
Mae gwrando ar eich plentyn a gwerthfawrogi'r hyn maen nhw'n ei ddweud, heb farnu teimladau yn ei dro yn gwneud iddyn nhw deimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi ac yn cynyddu eu hymddiriedaeth a'u hyder yn eich perthynas. Nid yw hyn bob amser yn hawdd, ac weithiau wrth i’ch plentyn ddisgrifio sut maent yn teimlo, gall fod yn anodd ei glywed, a hyd yn oed ei dderbyn. Bydd hyn yn arbennig o wir pan glywn hyn am y tro cyntaf. Y peth pwysicaf yw peidio ag ymateb yn syth na diystyru teimladau plant, ond yn hytrach gwrando’n bwyllog a dangos eich bod wedi ymroi iddynt ac eisiau helpu. Mae'n dda siarad am pam y gallent fod yn teimlo fel y maent, ond cofiwch nad yw llawer o blant a phobl ifanc yn gwybod pam, ond maent yn gwybod sut maent yn teimlo. Mae'n dda siarad am yr hyn maen nhw'n feddwl fydd yn helpu a beth rydych chi'n ei feddwl a allai fod o help, a’r pethau y gallwch chi roi cynnig arnyn nhw. Weithiau gall siarad am y peth a chael cynllun wneud gwahaniaeth mawr i'ch plentyn.

Mae'n dda gwneud cysylltiad gyda'ch plentyn, ond ceisiwch adael iddyn nhw arwain wrth benderfynu faint maen nhw'n ei rannu; mae'n anodd cael cydbwysedd cywir ond weithiau gall holi gormod arwain at i’r plentyn fod yn gyndyn o rannu, felly cymerwch arweiniad ganddyn nhw a chynnig cyfleoedd cyson heb unrhyw bwysau.

 

Creu arferion cadarnhaol
Rydym yn gwybod nad yw'n hawdd creu trefn a strwythur yn y cyfnod hwn, gyda'r cyfnodau clo rheolaidd a'r angen i hunan-ynysu yn tarfu ar ein harferion arferol. Fodd bynnag, mae ymchwil yn dweud wrthym fod y mwyafrif o blant yn teimlo'n well os oes trefn gadarnhaol yn bodoli. Gall trefn a strwythurau gefnogi lles plentyn ac annog ymddygiadau cadarnhaol. Man cychwyn da yw ailgyflwyno arferion rheolaidd gartref o amgylch bwyta'n iach ac ymarfer corff. Mae noson dda o gwsg hefyd yn bwysig iawn - ceisiwch eu cael yn ôl i arferion sy'n cyd-fynd â phatrwm dyddiau ysgol neu'r coleg.

 

Gofalu am eich iechyd meddwl eich hun

Gall magu plant neu ofalu am blentyn neu berson ifanc fod yn anodd ar brydiau. Mae'n bwysig iawn gofalu am eich iechyd meddwl a'ch lles eich hun, gan y bydd hyn yn eich helpu i gefnogi'r rhai rydych chi'n gofalu amdanynt.

Mae cydnabod pan rydych yn teimlo’n isel neu wedi eich llethu yn gam cyntaf pwysig. Nid yw cael trafferth dod i ben neu brofi eich problemau iechyd meddwl eich hun yn golygu eich bod yn rhiant neu ofalwr gwael.

Mae'n hollol normal i fod yn bryderus a phoenus yn ystod cyfnodau anodd, ond y peth pwysicaf yw eich bod yn cydnabod hyn. Efallai eich bod yn teimlo wedi ymlâdd, yn emosiynol ac yn bryderus ac os yw'r teimladau'n parhau, efallai ei bod yn bryd dechrau meddwl am ffyrdd y gallwch edrych ar ôl eich iechyd meddwl yn well, a gallai hyn gynnwys cael cefnogaeth broffesiynol. Isod, rydym wedi darparu rhywfaint o wybodaeth a allai fod yn ddefnyddiol i chi.

Mae'r Pum Ffordd at Les (Five Ways to Wellbeing) yn nodi'r camau syml y gall pob un ohonom eu cymryd i ofalu am ein hiechyd meddwl a'n lles. Gallwch hefyd ddarllen cyngor defnyddiol 'awgrymiadau ar gyfer byw bob dydd' ar wefan elusen iechyd meddwl MIND, a ffyrdd ymarferol o ofalu am eich iechyd meddwl ar wefan y Sefydliad Iechyd Meddwl (Mental Health Foundation).

Gallwch hefyd ddod o hyd i adnoddau penodol ar sut i ofalu am eich iechyd meddwl yn ystod y pandemig COVID-19 yma: https://phw.nhs.wales/services-and-teams/improvement-cymru/news-and-publications/publications/mental-health-and-wellbeing-cymru-self-help-resources-to-support-mental-health-and-wellbeing//news-and-publications/publications/mental-health-and-wellbeing-cymru-self-help-resources-to-support-mental-health-and-wellbeing/  Yno cewch newyddion a chyhoeddiadau am iechyd meddwl a lles, hunangymorth ac adnoddau i gefnogi iechyd meddwl, iechyd a lles.

Gallai hefyd fod yn ddefnyddiol siarad â ffrind, cyd-riant neu ofalwr rydych chi'n ymddiried ynddo ddigon i ddweud sut rydych chi'n teimlo. Efallai y gall teulu, ffrindiau neu gydweithiwr eich cefnogi neu gynnig seibiant i chi? Mae digon o gymorth ar gael. Ni ddylech fyth deimlo fel bod yn rhaid i chi ymdopi ar eich pen eich hun. Gweler ein Cwestiynau Cyffredin Iechyd Meddwl Oedolion am ragor o wybodaeth  [Insert link to FAQS for adults seeking MH support]

26/11/20
Sut y byddaf yn gwybod os oes rhywbeth o'i le?

Mae tua 1 o bob 8 o blant a phobl ifanc yn profi problemau ymddygiadol neu emosiynol wrth dyfu i fyny. I lawer, bydd y rhain yn datrys eu hunain gydag amser, tra bydd eraill angen cefnogaeth broffesiynol.

  • Mae'n gallu bod yn wirioneddol anodd fel rhiant i wybod a oes rhywbeth yn poeni eich plant, neu yntau newid hwyliau arferol neu newid / datblygu hormonaidd sydd yn achosi eu hymddygiad. Dyma ffyrdd o adnabod pryd mae rhywbeth o'i le. Maent yn bethau i edrych allan amdanynt:
  • Newidiadau arwyddocaol mewn ymddygiad, sydd yn anarferol i’ch plentyn.
  • Anhawster cysgu a chyfnodau parhaus o flinder yn ystod y dydd.
  • Mynd yn encilgar a thynnu eu hunain o sefyllfaoedd cymdeithasol .
  • Ddim bellach eisiau gwneud y pethau y maent fel arfer yn hoffi ei wneud.
  • Hunan-niweidio - gall hyn gynnwys gwneud toriadau bach trwy grafu neu ddefnyddio gwrthrych miniog, tynnu gwallt allan, gwylltio eithafol a tharo eu hunain.
  • Ddim yn gofalu am eu hunain - ddim eisiau ymolchi, glanhau eu dannedd a newid eu dillad.
  • Newid mewn arferion bwyta, amharodrwydd i fwyta, cuddio bwyd neu fwyta’n ormodol ac yna teimlo’n sâl neu daflu i fyny.
  • Mynegi teimladau o bryder a gofid yn rheolaidd, ddim eisiau cael eu gwahanu oddi wrth riant neu ofalwr, ddim eisiau mynychu'r ysgol na gadael cartref yn aml iawn.

Y peth pwysicaf i'w gofio yw mai chi sy’n adnabod eich plentyn orau, ac os ydych chi'n poeni, ystyriwch a fu newid sylweddol yn eu hymddygiad sydd wedi para am dros gyfnod o amser. Gallai hyn fod gartref, yn yr ysgol neu goleg; gydag eraill neu ar eu pennau eu hunain; neu mewn perthynas â digwyddiadau penodol neu newidiadau yn eu bywyd, gan gynnwys newidiadau oherwydd y pandemig.

Os ydych chi'n bryderus neu'n ansicr, mae llawer o gefnogaeth ar gael, gan gynnwys cymorth proffesiynol . Mae www.dewis.wales yn lle da i ddod o hyd i wasanaethau yn eich ardal chi. Gallwch hefyd gysylltu gyda’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd a’ch Canolfan Plant leol. Mae gwefannau defnyddiol eraill yn cynnwys:

 

Cegnogaeth i’ch plentyn:

 

HWB CYMRU: Gweler yma chwe rhestr chwarae i’ch arwain chi at ystod eang o adnoddau ar-lein i’ch helpu chi drwy’r cyfnod clo a thu hwnt. Ym mhob un o’r rhestr chwarae, fe welwch wefannau a ap hunangymorth, llinellau cymorth a mwy, sydd yma i gefnogi eich iechyd meddwl a’ch lles.

https://hwb.gov.wales/repository/discovery/resource/e53adf44-76cb-4635-b6c2-62116bb63a9a/cy?_ga=2.151518460.459291157.1604913013-1431377124.1568902089

CALM HARM: Ap Symudol i helpu pobl ifanc yn eu harddegau i wrthsefyll neu reoli'r ysfa i hunan-niweidio (Am ddim)

CHILDLINE: www.nspcc.org.uk /0800 1111

HARMLESS: Yn cynnig cyngor a gwybodaeth am bobl ifanc a allai fod yn hunan-niweidio neu brofi meddyliau o'r fath. www.harmless.org.uk

YOUNGMINDS: www.youngminds.org.uk  0808 802 5544

SELF HARM UK: Mae'n cynnig lle ar-lein i siarad a gofyn cwestiynau am bryderon yn eu bywyd. www.selfharm.co.uk

RETHINK MENTAL ILLNESS: www.rethink.org.uk/ 0300 5000 927

National Self Harm Network: Mae NSHN yn fforwm ar-lein sy'n caniatáu ichi siarad â phobl eraill mewn amgylchedd diogel, dan reolaeth. www.nshn.co.uk

THE MIX: 0808 808 4994

PAPYRUS: Papyrus HOPElineuk 0800 068 41 41 www.papyrus.org.uk

YOUNGMINDS CRISIS MESSENGER: Tecstiwch YM i 85258 am gyngor 24/7 am ddim 

HEADSPACE: Ap ymwybyddiaeth ofalgar (mindfulness) gyda llawer o wahanol raglenni i gefnogi iechyd meddwl

SANE:  Mae Saneline yn gweithredu o 4.30pm i 10.30pm bob dydd ar gyfer cymorth iechyd meddwl 0300 304 7000

WELLMIND: Datblygwyd yr Ap hwn gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (NHS) ac mae'n helpu gyda symptomau pryder ac iselder. Mae'n ffordd wych o gadw golwg ar eich meddyliau a'ch teimladau.

CATCH THAT THOUGHT: Mae'r ap hwn yn wych i fonitro meddyliau ac emosiynau anodd , pan fyddwch chi'n eu profi ac i gofnodi ym mhle yr ydych chi pan gewch y meddyliau hynny.

THE STRESS AND ANXIETY CAMPANION: Mae'r ap yn annog meddwl yn bositif trwy ei broses Therapi Ymddygiad Gwybyddol (Cognitive Behaviour Therapy – CBT) symlach ac yn eich helpu i ddeall sbardunau.

THRIVE: Mae'r ap hwn yn eich helpu i gasglu'ch meddyliau a deall eich emosiynau.

MEIC: MEIC yw'r gwasanaeth llinell gymorth i blant a phobl ifanc hyd at 25 oed yng Nghymru. Gallwch ganfod beth sy'n digwydd yn eich ardal leol i helpu i ddelio â sefyllfaoedd anodd, a bydd Meic yn gwrando hyd yn oed pan na fydd unrhyw un arall. Ni fyddwn yn eich barnu a byddwn yn helpu trwy roi gwybodaeth, cyngor defnyddiol a'r gefnogaeth sydd ei hangen arnoch i wneud newidiadau - https://www.meiccymru.org/

Mind: http://www.mind.org.uk/