Neidio i'r prif gynnwy

Accordion 2

17/11/20
Fedra'i gael ymwelwyr?

Bu hyn yn amser anodd dros ben i’r teuluoedd a’r gofalwyr hynny gydag anwyliaid yn yr ysbyty. Yr ydym yn deall y bu’n arbennig o anodd peidio â medru ymweld er mwyn cefnogi eu hadferiad a’u lles.

Oherwydd y newidiadau i’r canllawiau, caniateir peth ymweld yna ŵr. Fodd bynnag, gall ymweliadau ddigwydd yn unig os byddwn yn dilyn rhai canllawiau, felly bydd arnom angen eich help a’ch dealltwriaeth. Nid yw COVID-19 wedi diflannu, a rhaid i ni oll ddilyn y cyngor am reoli heintiadau er mwyn diogelwch pawb.

Ganllawiau diweddaraf y Bwrdd Iechyd am ymweliadau.

17/11/20
All fy nheulu fy nghefnogi yn ystod rownd y ward?

Yr ydym yn llawn gydnabod pwysigrwydd y rhwydwaith gefnogi o gyfeillion a theulu, yn enwedig yn ystod pandemig COVID-19. Gwneir pob ymdrech i annog parhad y gefnogaeth honno yn ystod rowndiau ward.

Ganllawiau diweddaraf y Bwrdd Iechyd am ymweliadau.

Lle nad oes modd ymweld, fe all fod cyfle i’r aelod o’ch teulu neu eich gofalwr ddefnyddio technoleg megis galwadau fideo i’ch cefnogi yn ystod rownd ward.

17/11/20
Fydda'i yn dal i fedru gadael?

Dylai gadael gael ei ganiatáu cyhyd ac nad oes gennych unrhyw symptomau COVID-19 a heb fod ag unrhyw gysylltiad gydag unrhyw achosion a gadarnhawyd.

17/11/20
Sut y galla'i fynd at eiriolwyr (advocates)? Ddylen nhw ddal i ddod i'r ward?

Mae eiriolwyr annibynnol yn weithwyr allweddol, ac o’r herwydd, mae gwasanaethau eiriol yn dal i weithredu yn y lleoliadau arferol lle mae pobl yn derbyn cefnogaeth gan y gwasanaethau iechyd a gofal. Bydd eiriolwyr yn cynnig amrywiaeth o fathau o gefnogaeth i gadw at reolau ymbellhau cymdeithasol, gan gynnwys cefnogaeth arlein ochr yn ochr ag unrhyw ostyngiad mewn cefnogaeth.

Mae’n bwysig yn yr amser anodd hwn eich b od yn cael gwybod beth yw eich hawliau a’ch bod yn cael eich cefnogi i holi cwestiynau am eich triniaeth ac y gallwch gyrchu eiriolwyr i gefnogi hyn.