Gallwch ddisgwyl i gyswllt rhyngoch chi a’ch gweithiwr iechyd proffesiynol gael ei gadw ar y lefel yr oedd cyn pandemig COVID-19. Caiff hyn ei bennu ar sail unigol, yn ôl eich anghenion.
Lle mae’n ddiogel gwneud hynny, cewch ddewis y math o gyswllt fyddai orau gennych, gan gynnwys adolygiadau wyneb-yn-wyneb, dros y ffôn neu fideo lle bo hyn ar gael. Byddwn yn gofyn i chi a oes gennych le tawel, preifat lle medrwch drafod eich iechyd meddwl mewn ffordd onest ac agored.
Bydd eich gweithiwr iechyd proffesiynol yn wastad yn ceisio ateb eich dewis o fath o gyswllt, ac ar yr un pryd reoli’r risgiau sy’n gysylltiedig â feirws COVID-19 a’r angen i’ch cadw chi, eich anwyliaid a’n staff yn ddiogel.
Dylai eich cynlluniau gofal a thriniaeth roi manylion y trefniadau cyswllt y cytunwyd arnynt gyda’ch cydlynydd gofal. Mae hyn yn broses ddwyffordd lle’r ydych chi yn gwybod sut a phryd i gysylltu â hwy, a’ch bod yn cytuno pa mor aml y dylent hwy gysylltu â chi.
Disgwylir i’r galw am wasanaethau iechyd meddwl gynyddu’n sylweddol, wrth i effaith pandemig COVID-19 ar iechyd meddwl pobl ddechrau dod yn amlwg. O’r herwydd, efallai y byddwch yn wynebu oedi hwy nac arfer am gefnogaeth gan wasanaethau iechyd meddwl arbenigol.
Fodd bynnag, rydym yn gwneud pob ymdrech i leihau’r amseroedd aros oherwydd ei bod yn bwysig cael cefnogaeth mor gynnar ag sydd modd
Mae nifer o bethau y medrwch wneud i ofalu am eich iechyd meddwl a’ch lles tra byddwch yn aros nes y daw cefnogaeth fwy arbenigol ar gael.
Argyfwng iechyd meddwl yw pan fydd cyflwr meddyliol neu emosiynol rhywun yn gwaethygu’n sydyn. Mae’n aml yn golygu nad ydych bellach yn teimlo y gallwch ymdopi na rheoli eich sefyllfa.
Gall argyfwng iechyd meddwl fod yn brofiad arswydus; efallai y byddwch yn teimlo’n ofnus, wedi eich llethu neu’n unig, ond y peth pwysig i’w gofio yw nad ydych ar eich pen eich hun a bod cefnogaeth ar gael i’ch helpu i deimlo’n well.
Os mai profiad o ddirywiad sydyn mewn problem iechyd meddwl sy’n bodoli eisoes a gewch, neu os cyfyd problem am y tro cyntaf, y peth pwysicaf yw estyn allan am help.
Rydym yma i roi help a chefnogaeth. Cofiwch ddod i gysylltiad os oes arnoch angen help ar frys.
Os ydych yn hysbys i’r gwasanaethau iechyd meddwl, dylai eich Cynllun Gofal a Thriniaeth gynnwys manylion o’r hyn i’w wneud mewn argyfwng.
Os nad ydych yn hysbys i’r gwasanaethau iechyd meddwl, cyfeiriwch at y rhestr isod o bwyntiau cyswllt lleol am ofal argyfwng yn eich ardal leol.
Yng Ngogledd Cymru: