Neidio i'r prif gynnwy

Accordion 0

17/11/20
Mae'r person yr wyf yn gofalu amdani/o fel arfer wedi mynd i'r ysbyty. Fydda'i yn dal i ymwneud â'i g/ofal?

Byddwch; mae’r gefnogaeth a roddwch mor bwysig i les ac adferiad yr unigolyn. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn ystod y pandemig COVID

17/11/20
Fedra'i gysylltu'n uniongyrchol â'r tîm ynghylch y person yr wyf yn gofalu amdani/o?

Medrwch - mae modd o hyd cysylltu’n uniongyrchol â thimau gofal iechyd, ac y mae’n bwysig eich bod yn gwneud hynny os oes gennych unrhyw bryderon. Fodd bynnag, chaiff gweithwyr iechyd proffesiynol ddim fel arfer rannu gwybodaeth gyfrinachol am eich perthynas gyda chi, oni fydd y perthynas yn cytuno. Gallwch ddarllen mwy am hyn ar ‘Cyfrinachedd a rhannu gwybodaeth: I ofalwyr, cyfeillion a theuluoedd’ trwy glicio yma: www.rethink.org/advice-and-information/carers-hub/confidentiality-and-information-sharing-for-carers-friends-and-family/.  

Medrwch chi a’ch perthynas gymryd camau er mwyn i weithwyr proffesiynol allu rhannu gwybodaeth gyda chi. Gweler yr adran dan y teitl ‘Pa drefniadau fedra’i wneud at y dyfodol?’ yn y ddolen uchod.

Fe welwch y gall eich perthynas lofnodi ffurflen gydsynio i ganiatáu i chi gael gwybodaeth gan y gweithwyr proffesiynol.

17/11/20
Fydda'i yn dal i fedru cael cefnogaeth fel gofalwr?

Gall mudiadau gofalwyr roi gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth berthnasol. Gallant wneud y canlynol:

  • Rhoi rhywun i gael sgwrs â hwy
  • Rhoi gwybod i chi am eich hawliau (gan gynnwys cyngor am fudd-daliadau lles)
  • Helpu i gael asesiad gofalwr
  • Eich helpu i ddatblygu cynllun sy’n cefnogi eich anghenion
  • Eich rhoi mewn cysylltiad â grwpiau gofalwyr lleol fel y medrwch gysylltu â gofalwyr eraill

Mae’n bwysig i chi gofio eich bod yn gwneud eich gorau ar yr adeg anodd hon, felly byddwch yn garedig wrthych eich hun.

17/11/20
Fydda'i yn medru mynychu adolygiadau?

Byddwch, os bydd y defnyddiwr gwasanaeth/claf yn cytuno i hyn ac yr ystyrir y bydd yn ddiogel gwneud hynny, gan gadw mewn cof fesurau atal haint COVID-19.

Efallai y cewch gynnig defnyddio technoleg ddigidol i’ch helpu i fynychu adolygiadau. Mae hyn yn cynnwys ymgynghoriadau fideo trwy lwyfan Attend Anywhere, a gyflwynwyd yn ddiweddar i bob Bwrdd Iechyd yng Nghymru.