Neidio i'r prif gynnwy

Y diweddaraf ar frechlynnau

Dosiau cyntaf ar gyfer plant rhwng 5 a 11 oed

Rydym yn parhau i ysgrifennu at rieni plant iach rhwng 5 a 11 oed, yn eu gwahodd i drefnu apwyntiad brechu ar gyfer eu plentyn.

Gellir trefnu apwyntiadau trwy ffonio ein Canolfan Gyswllt Brechiadau COVID-19 ar 03000 840004. Mae llinellau ffôn ar agor rhwng 8am a 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9am a 1pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul.

Mae'r Cydbwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi cynghori y dylai plant rhwng 5 a 11 oed gael cynnig y brechlyn er mwyn gwella amddiffyniad yn erbyn tonnau posibl o COVID-19 yn y dyfodol.

Rydym yn annog rhieni a phlant i wneud penderfyniad ar sail gwybodaeth yn ymwneud â pha un ai i dderbyn y brechlyn, yn seiliedig ar y wybodaeth ddiweddaraf gan ffynonellau dibynadwy. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi gwybodaeth ar eu gwefan i ategu hyn.

Deallwn y gallai rhai plant bach fod yn ofidus am ddod i leoliad anghyfarwydd er mwyn derbyn eu brechlyn. Bydd ein clinigau i blant yn dawelach o lawer na chlinigau'r pigiad atgyfnerthu a gynhaliwyd yn ystod rhan olaf 2021, a gall ein staff profiadol roi o'u hamser i gefnogi plant ac i'w gwneud yn gyfforddus, cyn iddynt dderbyn eu brechlyn.

Mae'r brechlyn COVID-19 eisoes wedi cael ei gynnig i'r holl blant rhwng 5 a 11 oed sydd mewn grŵp risg glinigol, neu sy'n cael cyswllt ar yr aelwyd â rhywun sydd â system imiwnedd wannach. Gwahoddir y rhai nad ydynt wedi derbyn y cynnig hwn i ffonio ein Canolfan Gyswllt Brechiadau COVID-19 ar 03000 840004.

31 Awst 2022 yw'r dyddiad dod i ben ar gyfer y dos cyntaf i blant rhwng 5 a 11 oed, felly os ydych yn awyddus i'ch plentyn gael ei frechu, dylech wneud hynny cyn y dyddiad hwnnw.

 

Grwpiau oedran eraill - dosiau cychwynnol ac atgyfnerthu

Tra ein bod yn parhau i gyflwyno ein rhaglen atgyfnerthu ar gyfer y Gwanwyn, nid yw'n rhy hwyr i unrhyw un lle bo angen dos cychwynnol (cyntaf, ail neu drydydd) neu'r pigiad atgyfnerthu ar gyfer yr Hydref i gael eu brechu.

I drefnu eich brechiad rhag COVID-19, ffoniwch ein Canolfan Gyswllt ar 03000 840004 neu ewch i un o'n clinigau galw heibio. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am hyn ar ein gwefan yma.