Neidio i'r prif gynnwy

Y Diweddaraf ar Frechlynnau

Dyddiad dod i ben ar gyfer pigiadau atgyfnerthu ar gyfer y Gwanwyn

Yn unol ag arweiniad cenedlaethol, bydd y rhaglen pigiadau atgyfnerthu ar gyfer y Gwanwyn yn dod i ben ar 30 Mehefin 2022. Bydd hyn yn caniatáu i'r sawl sy'n derbyn pigiad atgyfnerthu ar gyfer y Gwanwyn gael digon o amser rhwng dosiau os bydd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) yn tybio eu bod yn gymwys i dderbyn pigiad atgyfnerthu ar gyfer hydref 2022.

Er mwyn caniatáu digon o amser i bobl fynychu apwyntiadau brechu, mae'r rhai sy'n troi'n 75 ar 30 Mehefin, neu cyn hynny, yn gymwys i gael eu brechu ar unrhyw adeg yn rhaglen y Gwanwyn ar yr amod bod o leiaf dri mis wedi mynd heibio ers eu dos diwethaf. Mae hyn yn golygu y bydd rhai pobl yn 74 oed ar ddiwrnod y brechiad, ond maent yn gymwys gan eu bod yn troi'n 75 oed cyn y dyddiad gofynnol.

Os byddwch yn sâl ar ddiwrnod eich apwyntiad, gallwch aildrefnu eich apwyntiad 28 diwrnod yn ddiweddarach hyd at 28 Gorffennaf.

Mae'r holl wahoddiadau brechu wedi cael eu hanfon allan, ond os teimlwch ein bod wedi'ch colli, ffoniwch y Ganolfan Gyswllt ar 03000 840004 neu ewch i un o'n clinigau galw heibio. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn ar ein gwefan yma.

Mae rhagor o wybodaeth am ymgyrch y pigiad atgyfnerthu ar gyfer y Gwanwyn ar gael ar ein gwefan yma.

 

Grwpiau oedran eraill - dosiau cychwynnol ac atgyfnerthu

Tra ein bod yn parhau i gyflwyno ein rhaglen atgyfnerthu ar gyfer y Gwanwyn, nid yw'n rhy hwyr i unrhyw un lle bo angen dos cychwynnol (cyntaf, ail neu drydydd) neu'r pigiad ar gyfer yr Hydref i gael eu brechu.

I drefnu eich brechiad rhag COVID-19, ffoniwch ein Canolfan Gyswllt ar 03000 840004 neu ewch i un o'n clinigau galw heibio. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn ar ein gwefan yma.