Neidio i'r prif gynnwy

Y Diweddaraf ar Frechlynnau

Dyddiad dod i ben ar gyfer pigiadau atgyfnerthu ar gyfer y Gwanwyn

Yn unol ag arweiniad cenedlaethol, bydd cynnig y rhaglen pigiadau atgyfnerthu ar gyfer y Gwanwyn yn dod i ben ar 30 Mehefin 2022. Bydd hyn yn caniatáu i'r sawl sy'n derbyn pigiad atgyfnerthu ar gyfer y Gwanwyn gael digon o amser rhwng dosiau os bydd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) yn tybio eu bod yn gymwys i dderbyn pigiad atgyfnerthu ar gyfer hydref 2022.

Er mwyn caniatáu digon o amser i bobl fynychu apwyntiadau brechu, mae'r rhai sy'n troi'n 75 ar 30 Mehefin, neu cyn hynny, yn gymwys i gael eu brechu ar unrhyw adeg yn rhaglen y Gwanwyn ar yr amod bod o leiaf dri mis wedi mynd heibio ers eu dos diwethaf. Mae hyn yn golygu y bydd rhai pobl yn 74 oed ar ddiwrnod y brechiad, ond maent yn gymwys gan eu bod yn troi'n 75 oed cyn y dyddiad gofynnol.

Os byddwch yn sâl ar ddiwrnod eich apwyntiad, gallwch aildrefnu eich apwyntiad 28 diwrnod yn ddiweddarach hyd at 28 Gorffennaf.

Er mwyn sicrhau bod modd i ni amddiffyn cynifer o bobl â phosibl yn y garfan hon, byddwn yn cynnig apwyntiadau galw heibio o'r wythnos nesaf ymlaen mewn rhai clinigau. Bydd rhagor o wybodaeth am ble caiff apwyntiadau galw heibio eu cynnig ar gael ar ein gwefan yn ddiweddarach yr wythnos hon.

Gall unrhyw un sy'n tybio ei fod yn gymwys i dderbyn pigiad atgyfnerthu ar gyfer y Gwanwyn, ond nad yw wedi cael apwyntiad ei drefnu trwy ein Canolfan Gyswllt ar 03000 840004.

Mae rhagor o wybodaeth am ymgyrch y pigiad atgyfnerthu ar gyfer y Gwanwyn ar gael ar ein gwefan yma.

 

Dosiau cyntaf ar gyfer plant rhwng 5 a 11 oed

Yn ddiweddar, gwnaethom ysgrifennu at rieni a gwarcheidwaid y sawl rhwng 5 a 11 oed gyda chynnig apwyntiad penodol. Caiff yr apwyntiadau hyn eu cynnig yn ystod yr haf hyd at 31 Awst cyn i'r plant ddychwelyd i'r ysgol.

Deallwn y gallai rhai plant bach fod yn ofidus am ddod i leoliad anghyfarwydd er mwyn derbyn eu brechlyn. Mae ein clinigau i blant wedi'u lleoli mewn mannau digyffro a thawel a bydd ein staff profiadol yn cymryd yr amser i roi cymorth i blant ac i sicrhau eu bod yn gyfforddus cyn iddynt dderbyn eu brechlyn. Rydym hefyd wedi cynhyrchu fideo i roi syniad i bobl am natur ein clinigau plant, a gallwch ei wylio isod. 

Rydym yn annog rhieni a phlant i wneud penderfyniad ar sail gwybodaeth yn ymwneud â pha un ai i dderbyn y brechiad, yn seiliedig ar y wybodaeth ddiweddaraf gan ffynonellau dibynadwy. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi gwybodaeth ar eu gwefan i ategu hyn.

Gellir newid dyddiadau/amseroedd apwyntiadau trwy ffonio ein Canolfan Gyswllt Brechiadau COVID-19 ar 03000 840004. Mae llinellau ffôn ar agor rhwng 8am a 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9am a 1pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul.

 

Grwpiau oedran eraill - dosiau cychwynnol ac atgyfnerthu

Tra ein bod yn parhau i gyflwyno ein rhaglen atgyfnerthu ar gyfer y Gwanwyn, nid yw'n rhy hwyr i unrhyw un lle bo angen dos cychwynnol (cyntaf, ail neu drydydd) neu'r pigiad ar gyfer yr Hydref i gael eu brechu. I drefnu eich brechiad COVID-19, ffoniwch ein Canolfan Gyswllt ar 03000 840004.

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth ar ein gwefan yma.