Neidio i'r prif gynnwy

Y Diweddaraf ar Frechlynnau

17/05/22

Diwrnod olaf pigiadau atgyfnerthu'r gwanwyn

Yn unol â chanllawiau cenedlaethol, bydd y gwaith o gyflawni rhaglen pigiadau atgyfnerthu'r gwanwyn yn dod i ben ar 30 Mehefin 2022. Bydd hyn yn caniatáu i'r sawl sy'n cael pigiad atgyfnerthu yn ystod y gwanwyn i gael digon o amser rhwng dosys os bydd y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) yn ystyried eu bod yn gymwys i gael pigiad atgyfnerthu yn ystod hydref 2022.

Pobl a fydd yn troi’n 75 mlwydd oed cyn i bigiadau atgyfnerthu'r gwanwyn ddod i ben

I sicrhau y bydd digon o amser i bobl allu mynychu apwyntiadau i gael eu brechu, mae'r sawl sy'n troi'n 75 oed ar neu cyn 30 Mehefin yn gymwys i gael eu brechu unrhyw bryd yn ystod rhaglen y gwanwyn, os oes o leiaf tri mi wedi mynd heibio er eu dos ddiwethaf. Mae hyn yn golygu y bydd rhai pobl yn 74 mlwydd oed ar ddiwrnod y brechiad, ond maent yn gymwys oherwydd byddant yn troi'n 75 oed cyn diwrnod olaf y rhaglen.

Oedi oherwydd heintiadau

Os bydd rhywun sy'n gymwys i gael un o bigiadau atgyfnerthu'r gwanwyd wedi dal heintiad COVID-19 yn ddiweddar, bydd yn rhaid iddynt ddisgwyl 28 diwrnod wedi dyddiad eu prawf positif cyn y gallant gael eu brechu. Byddant yn dal yn gallu cael eu brechu ar ôl 30 Mehefin fel rhan o'r ymgyrch hon os bydd yn rhaid iddynt ohirio.

Grwpiau oedrannau eraill - prif ddosys a dosys atgyfnerthu

Er ein bod yn parhau i roi rhaglen frechu'r gwanwyn ar waith, nid yw'n rhy hwyr i unrhyw un y mae arnynt angen prif ddos (y gyntaf, yr ail neu'r drydedd) neu bigiad atgyfnerthu i gael eu brechu. I drefnu i gael eich brechiad COVID-19, ffoniwch ein Canolfan Gyswllt ar 03000 840004.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar ein gwefan yma.

Brechiadau Covid ar gyfer teithiau rhyngwladol

Cofiwch gynllunio ymlaen llaw os ydych yn credu y bydd angen i chi gael eich brechu cyn teithio dramor. Mae'r rhaglen brechu yn cadw at gyngor clinigol JCVI ynghylch yr amser aros rhwng brechiadau.

Mae brechiadau Covid yn dal i gael eu cynnig am ddim trwy'r GIG ond nid oes 'llwybr carlam' ar gyfer pobl sy'n mynd i deithio - argymhellir yr amserlen brechu i sicrhau diogelwch ac effeithiolrwydd.

Yn achos oedolion, bydd yn rhaid aros wyth wythnos rhwng y dos gyntaf a'r ail ddos. Yna, bydd yn rhaid aros 13 wythnos arall cyn cael pigiad atgyfnerthu, a 13 wythnos arall yn achos y rhai sy'n gymwys i gael un o bigiadau atgyfnerthu'r Gwanwyn. Mae'r cyngor ynghylch amser aros rhwng brechiadau yn amrywio, ac mae hynny'n dibynnu ar oedran, pa mor agored i niwed yn glinigol yw unigolion, a heintiadau COVID-19 blaenorol.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru yma.