Neidio i'r prif gynnwy

Y Diweddaraf ar Frechlynnau

Gan Gill Harris, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth

Mae’r cynnydd amlwg mewn achosion COVID-19 ar draws Gogledd Cymru yn parhau i roi pwysau ychwanegol ar ein hysbytai.

Yr wythnos diwethaf, amcangyfrifwyd bod un o bob 16 o bobl ar draws y DU wedi’i heintio, wrth i amrywiolyn heintus Omicron BA.2 barhau i ledaenu.

Rydym am atgoffa pobl nad yw'n rhy hwyr i drefnu cael eu dos cyntaf, eu hail ddos neu eu dos atgyfnerthu o'r brechlyn COVID-19. Cael y brechlyn COVID-19 diweddaraf yw’r ffordd orau o amddiffyn eich hun rhag mynd yn ddifrifol wael, os ydych yn dal y firws.

Gwahoddir y rhai sy'n gymwys i ffonio ein Canolfan Gyswllt Brechu COVID-19 ar 03000 840004. Mae llinellau ffôn ar agor rhwng 8am a 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9am ac 1pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul.

Gorchudd wyneb yn parhau'n hanfodol mewn lleoliadau iechyd

Ddoe (dydd Llun 28 Mawrth 2022), fe wnaeth Llywodraeth Cymru ddiddymu rhai o’r cyfyngiadau COVID-19 sy’n weddill. Fodd bynnag, mae'n parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol i wisgo gorchuddion wyneb mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys ein clinigau brechu COVID-19.

Ail ddos ​​atgyfnerthu ar gyfer y rhai sy’n cael eu rhestru gan JCVI

Dydd Llun nesaf (4 Ebrill) byddwn yn dechrau rhoi ail ddosiau atgyfnerthu i oedolion 75 mlwydd oed a hŷn sy'n gallu mynychu ein canolfannau brechu COVID-19.

Bydd y rhai sy'n gymwys yn derbyn gwahoddiad apwyntiad trwy lythyr neu byddwn yn cysylltu â nhw dros y ffôn. Os ydych yn gwpl 75 mlwydd oed a hŷn, byddwn yn ymdrechu i'ch gwahodd i apwyntiad gyda'ch gilydd. Fodd bynnag, os byddwch yn derbyn apwyntiad sydd ar ddyddiad neu amser gwahanol i'ch partner ac yr hoffech ei newid, ffoniwch ein Canolfan Gyswllt Brechu COVID-19 ar 03000 840004. Mae'r llinellau ffôn ar agor rhwng 8am a 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9am ac 1pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul.

Rydym bellach yn ein trydedd wythnos o gynnig ail ddos ​​atgyfnerthu i breswylwyr mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn a’r rhai 75 mlwydd oed a hŷn sy’n gaeth i’r tŷ.

Bydd llythyrau gwahoddiad yn cael eu hanfon at y rhai sy'n 12+ sydd â system imiwnedd wannach yn ystod yr wythnosau nesaf. Diolchwn i'r rhai cymwys am eu hamynedd.

Nid oes angen i bobl sy'n gymwys i gael ail ddos ​​atgyfnerthu gysylltu â'u meddyg teulu na'r Bwrdd Iechyd. Cysylltir yn uniongyrchol â chi pan ddaw eich tro.

Mae meini prawf cymhwyster ar gyfer ail bigiadau atgyfnerthu wedi cael eu diffinio gan y Cydbwyllor ar Imiwneiddio a Brechu, os ydych o dan 75 oed ac nad oes gennych system imiwnedd wannach, fel y’i diffinnir yn y Llyfr Gwyrdd, ni fyddwn yn gallu cynnig ail ddos atgyfnerthu i chi.

Dosau cyntaf ar gyfer plant 5-11 mlwydd oed

Rydym yn parhau i ysgrifennu at rieni plant iach 5-11 mlwydd oed, yn eu gwahodd i drefnu apwyntiad brechu ar gyfer eu plentyn.

Gellir trefnu apwyntiadau trwy ffonio ein Canolfan Gyswllt Brechu COVID-19 ar 03000 840004. Mae llinellau ffôn ar agor rhwng 8am a 6pm o ddydd Llun i ddydd Gwener a rhwng 9am ac 1pm ar ddydd Sadwrn a dydd Sul.

Mae'r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) wedi cynghori y dylid cynnig y brechlyn i blant 5-11 mlwydd oed er mwyn cynyddu eu hamddiffyniad rhag tonnau posibl o COVID-19 yn y dyfodol.

Rydym yn annog rhieni a phlant i wneud penderfyniad gwybodus ynghylch a ddylid bwrw ymlaen â brechu, yn seiliedig ar y wybodaeth ddiweddaraf o ffynonellau dibynadwy. Yr wythnos hon mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyhoeddi gwybodaeth ar eu gwefan i gefnogi hyn.

Rydym yn deall y gallai rhai plant ifanc fod yn bryderus ynghylch dod i leoliad anghyfarwydd i gael eu brechu. Bydd ein clinigau plant gryn dipyn yn dawelach na’r clinigau atgyfnerthu a gynhaliwyd yn ystod diwedd 2021, a gall ein staff profiadol gymryd yr amser i gefnogi plant a’u gwneud yn gartrefol, cyn iddynt dderbyn eu brechlyn.

Mae’r brechlyn COVID-19 eisoes wedi’i gynnig i bob plentyn rhwng 5 ac 11 mlwydd oed sydd mewn grŵp risg clinigol, neu sy’n byw gyda rhywun sydd â system imiwnedd wannach. Gwahoddir y rhai sydd eto i dderbyn y cynnig hwn i ffonio ein Canolfan Gyswllt Brechu COVID-19 ar 03000 840 004.

 

Canolfan Frechu Glannau Dyfrdwy yn cau ar ôl cynnig dros 220,000 o ddosiau

Mae staff a gwirfoddolwyr o Ganolfan Frechu Torfol Glannau Dyfrdwy wedi diolch i'r gymuned am eu cefnogaeth wrth i'r ganolfan gau yr wythnos hon.

Mae'r ganolfan frechu, a agorodd ym mis Ionawr 2021 yng Nghanolfan Hamdden Glannau Dyfrdwy, wedi cyflawni rôl allweddol yn y frwydr yn erbyn COVID-19, ac mae wedi arwain at lwyddiant mawr trwy gynnig dros 220,000 o ddosiau brechu rhag COVID-19. Darllenwch fwy ar ein wefan